{
  "url": "https://openlegislation.uk/representation-of-the-people-welsh-forms-order-1989/schedule-2",
  "json_url": "https://openlegislation.uk/representation-of-the-people-welsh-forms-order-1989/schedule-2.json",
  "legislation": "uksi/1989/429",
  "legislation_title": "The Representation of the People (Welsh Forms) Order 1989",
  "legislation_url": "https://openlegislation.uk/representation-of-the-people-welsh-forms-order-1989",
  "path": "schedule/2",
  "kind": "schedule",
  "number": "2",
  "heading": "Forms in Welsh",
  "text": "Form 1\n(i) “Ai chi yw'r person a gofrestrwyd yn y gofrestr etholwyr seneddol ar gyfer yr etholiad hwn fel hyn (darllenwch y cofnod llawn yn y gofrestr)?”\n(ii) “A ydych eisoes wedi pleidleisio yma neu rywle arall, yn yr is-etholiad [etholiad cyffredinol] hwn, heblaw fel dirprwy ar ran rhyw berson arall?”\nForm 2\n(i) “Ai chi yw'r person y gwelir ei enw fel A.B. yn y rhestr ddirpwyon ar gyfer yr etholiad hwn, fel un sydd â hawl i bleidleisio fel dirprwy ar ran C.D.?”\n(ii) “A ydych eisoes wedi pleidleisio yma neu rywle arall yn yr is-etholiad [etholiad cyffredinol] hwn fel dirprwy ar ran C.D.?”\nForm 3\n“Ai chi yw gŵr [gwraig], rhiant, tadcu [mamgu], brawd [chwaer], plentyn, neu ŵyr [wyres] C.D.?”\n“A ydych eisoes wedi pleidleisio yn yr etholiad hwn ac yn yr etholaeth hon ar ran dau berson nad ydych yn ŵr [gwraig], rhiant, tadcu [mamgu], brawd [chwaer], plentyn, neu *wcirc;yr [wyres] iddynt?”\nForm 4\nETHOL AELOD\nI WASANAETHU YN Y SENEDD DROS\nForm 5\nCYFARWYDDYD I BLEIDLEISWYR\n1 Pan roir i chi bapur pleidleisio gwnewch yn siŵr iddo gael ei stampio â'r marc swyddogol.\n2 Ewch i un o'r cabanau pleidleisio. Rhowch groes (X) yn y blwch ar ochr dde'r papur pleidleisio gyferbyn ag enw yr ymgeisydd yr ydych am bleidleisio trosto.\n3 Plygwch y papur yn ddau. Dangoswch y marc swyddogol i'r swyddog llywyddu, ond peidiwch â gadael i neb weld eich pleidlais. Rhowch y papur pleidleisio yn y blwch pleidleisiau a mynd allan o'r orsaf bleidleisio.\n4 Pleidleisiwch i un ymgeisydd yn unig. Peidiwch â rhoi unrhyw farc arall ar y papur pleidleisio neu fe all na chaiff eich pleidlais ei chyfrif.\n5 Os bydd i chi drwy gamgymeriad ddifetha eich papur pleidleisio, ewch a'i ddangos i'r swyddog llywyddu a gofyn am un arall.\nForm 6",
  "extent": null,
  "status": null,
  "version": "current",
  "annotations": [],
  "outstanding_effects": [],
  "provenance": {
    "source": "legislation.gov.uk",
    "source_url": "https://www.legislation.gov.uk/uksi/1989/429/schedule/2",
    "retrieved_at": "2026-10-29T15:47:42.548317+00:00"
  },
  "licence": "Open Government Licence v3.0",
  "licence_url": "https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/",
  "attribution": "Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives."
}