# The Representation of the People (Welsh Forms) Order 1989, Schedule 2: Forms in Welsh


Form 1
(i) “Ai chi yw'r person a gofrestrwyd yn y gofrestr etholwyr seneddol ar gyfer yr etholiad hwn fel hyn (darllenwch y cofnod llawn yn y gofrestr)?”
(ii) “A ydych eisoes wedi pleidleisio yma neu rywle arall, yn yr is-etholiad [etholiad cyffredinol] hwn, heblaw fel dirprwy ar ran rhyw berson arall?”
Form 2
(i) “Ai chi yw'r person y gwelir ei enw fel A.B. yn y rhestr ddirpwyon ar gyfer yr etholiad hwn, fel un sydd â hawl i bleidleisio fel dirprwy ar ran C.D.?”
(ii) “A ydych eisoes wedi pleidleisio yma neu rywle arall yn yr is-etholiad [etholiad cyffredinol] hwn fel dirprwy ar ran C.D.?”
Form 3
“Ai chi yw gŵr [gwraig], rhiant, tadcu [mamgu], brawd [chwaer], plentyn, neu ŵyr [wyres] C.D.?”
“A ydych eisoes wedi pleidleisio yn yr etholiad hwn ac yn yr etholaeth hon ar ran dau berson nad ydych yn ŵr [gwraig], rhiant, tadcu [mamgu], brawd [chwaer], plentyn, neu *wcirc;yr [wyres] iddynt?”
Form 4
ETHOL AELOD
I WASANAETHU YN Y SENEDD DROS
Form 5
CYFARWYDDYD I BLEIDLEISWYR
1 Pan roir i chi bapur pleidleisio gwnewch yn siŵr iddo gael ei stampio â'r marc swyddogol.
2 Ewch i un o'r cabanau pleidleisio. Rhowch groes (X) yn y blwch ar ochr dde'r papur pleidleisio gyferbyn ag enw yr ymgeisydd yr ydych am bleidleisio trosto.
3 Plygwch y papur yn ddau. Dangoswch y marc swyddogol i'r swyddog llywyddu, ond peidiwch â gadael i neb weld eich pleidlais. Rhowch y papur pleidleisio yn y blwch pleidleisiau a mynd allan o'r orsaf bleidleisio.
4 Pleidleisiwch i un ymgeisydd yn unig. Peidiwch â rhoi unrhyw farc arall ar y papur pleidleisio neu fe all na chaiff eich pleidlais ei chyfrif.
5 Os bydd i chi drwy gamgymeriad ddifetha eich papur pleidleisio, ewch a'i ddangos i'r swyddog llywyddu a gofyn am un arall.
Form 6

---
Source: https://www.legislation.gov.uk/uksi/1989/429/schedule/2 (the official version)
Page: https://openlegislation.uk/representation-of-the-people-welsh-forms-order-1989/schedule-2
Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives.

