{
  "url": "https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011/schedule-2/paragraph-1",
  "json_url": "https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011/schedule-2/paragraph-1.json",
  "legislation": "wsi/2011/2680",
  "legislation_title": "The RTM Companies (Model Articles) (Wales) Regulations 2011",
  "legislation_url": "https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011",
  "path": "schedule/2/paragraph/1",
  "kind": "paragraph",
  "number": "1",
  "heading": "Diffinio termau",
  "text": "Yn yr erthyglau, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall—\nmae i “aelod” yr ystyr a roddir i “member” yn adran 112 o Ddeddf 2006;\nmae i “cadeirydd” yr ystyr a roddir yn erthygl 17;\nmae i “cadeirydd y cyfarfod” yr ystyr a roddir yn erthygl 30;\nmae i “cwmni RTM” (cwmni Hawl i Reoli) yr ystyr a roddir i “RTM company” yn adran 73 o Ddeddf 2002;\nystyr “cyfarwyddwr” yw cyfarwyddwr cwmni, ac y mae'n cynnwys unrhyw berson sy'n dal swydd cyfarwyddwr, pa bynnag enw a roddir ar y swydd honno;\nmae i “cymryd rhan”, mewn perthynas â chyfarfod cyfarwyddwyr, yr ystyr a roddir yn erthygl 15;\nystyr “Deddf 2002” yw Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002;\nmae i “Deddfau Cwmnïau” yr ystyr a roddir i “Companies Acts” fel y'u diffinnir yn adran 2 o Ddeddf Cwmnïau 2006, i'r graddau y maent yn gymwys i'r cwmni;\nmae “dogfen”, oni phennir yn wahanol, yn cynnwys unrhyw ddogfen a anfonir neu a gyflenwir mewn ffurf electronig;\nystyr “erthyglau” yw erthyglau cymdeithasu'r cwmni;\nystyr “y Fangre” yw [enw a chyfeiriad];\nmae i “ffurf electronig” yr ystyr a roddir i “electronic form” yn adran 1168 o Ddeddf Cwmnïau 2006 (“Deddf 2006”);\nmae i “hysbysiad dirprwy” yr ystyr a roddir yn erthygl 36;\nmae i “is-gwmni” yr ystyr a roddir i “subsidiary” yn adran 1159 o Ddeddf 2006;\nystyr “landlord uniongyrchol”, mewn perthynas ag uned yn y Fangre, yw'r person—\n(a)os yw'r uned yn ddarostyngedig i les, sy'n landlord o dan y les; neu\n(b)os yw'r uned yn ddarostyngedig i ddwy neu ragor o lesoedd, sy'n landlord o dan ba un bynnag o'r lesoedd sy'n israddol i'r lleill;\nystyr “les” yw les hir o fewn ystyr “long lease” yn adrannau 76 a 77 o Ddeddf 2002;\nmae “methdaliad” yn cynnwys achos ansolfedd unigol, sy'n cael effaith gyffelyb i fethdaliad, mewn awdurdodaeth arall ac eithrio Cymru a Lloegr neu Ogledd Iwerddon;\nmae i “penderfyniad arbennig” yr ystyr a roddir i “special resolution” yn adran 283 o Ddeddf 2006;\nmae i “penderfyniad cyffredin” yr ystyr a roddir i “ordinary resolution” yn adran 282 o Ddeddf 2006;\nmae i “tenant cymwys” yr ystyr a roddir i “qualifying tenant” yn adrannau 75 a 112 o Ddeddf 2002;\nystyr “uned breswyl” yw fflat neu unrhyw set arall ar wahân sy'n fangre a adeiladwyd neu a addaswyd at ddibenion annedd; ac\nystyr “ysgrifen” yw geiriau, symbolau neu wybodaeth arall, a gynrychiolir neu a atgynhyrchir mewn ffurf weladwy, gan ddefnyddio unrhyw ddull neu gyfuniad o ddulliau, ar gyfer eu hanfon neu'u cyflenwi mewn ffurf electronig neu rywfodd arall.\n(2) Onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae i eiriau ac ymadroddion eraill a geir yn yr erthyglau hyn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Neddf Cwmnïau 2006 fel yr oedd mewn grym ar y dyddiad y gwnaed Rheoliadau Cwmnïau RTM (Erthyglau Enghreifftiol) (Cymru) 2011.",
  "extent": "E+W",
  "status": null,
  "version": "current",
  "annotations": [
    {
      "type": "F",
      "label": "F1",
      "text": "Words in Sch. 2 art. 1 inserted (3.3.2025) by The RTM Companies (Model Articles) (Wales) (Amendment) Regulations 2025 (S.I. 2025/126), regs. 1, 2(3)(a)(i)"
    },
    {
      "type": "F",
      "label": "F2",
      "text": "Word in Sch. 2 art. 1 substituted (3.3.2025) by The RTM Companies (Model Articles) (Wales) (Amendment) Regulations 2025 (S.I. 2025/126), regs. 1, 2(3)(a)(ii)"
    },
    {
      "type": "I",
      "label": "I1",
      "text": "Sch. 2 art. 1 in force at 30.11.2011, see reg. 1(2)"
    },
    {
      "type": "footnote",
      "label": "f1",
      "text": "2006 (c. 46)."
    }
  ],
  "outstanding_effects": [],
  "provenance": {
    "source": "legislation.gov.uk",
    "source_url": "https://www.legislation.gov.uk/wsi/2011/2680/schedule/2/paragraph/1",
    "retrieved_at": "2026-10-28T23:48:59.854695+00:00"
  },
  "licence": "Open Government Licence v3.0",
  "licence_url": "https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/",
  "attribution": "Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives."
}