{
  "url": "https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011/schedule-2/paragraph-10",
  "json_url": "https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011/schedule-2/paragraph-10.json",
  "legislation": "wsi/2011/2680",
  "legislation_title": "The RTM Companies (Model Articles) (Wales) Regulations 2011",
  "legislation_url": "https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011",
  "path": "schedule/2/paragraph/10",
  "kind": "paragraph",
  "number": "10",
  "heading": "Caiff cyfarwyddwyr ddirprwyo",
  "text": "(1) Yn ddarostyngedig i'r erthyglau, caiff y cyfarwyddwyr ddirprwyo unrhyw rai o'r pwerau a roddir iddynt o dan yr erthyglau—\n(a) i ba bynnag berson neu bwyllgor;\n(b) drwy ba bynnag ddull (gan gynnwys atwrneiaeth);\n(c) i ba bynnag raddau;\n(ch) mewn perthynas â pha bynnag faterion; a\n(d) ar ba bynnag delerau ac amodau;\nag y tybiant yn briodol.\n(2) Os yw'r cyfarwyddwyr yn pennu felly, caiff unrhyw ddirprwyo o'r fath awdurdodi dirprwyo pwerau'r cyfarwyddwyr ymhellach, gan unrhyw berson y dirprwywyd y pwerau iddo.\n(3) Caiff y cyfarwyddwyr ddirymu unrhyw ddirprwyo yn gyfan gwbl neu'n rhannol, neu newid amodau a thelerau'r dirprwyo.",
  "extent": "E+W",
  "status": null,
  "version": "current",
  "annotations": [
    {
      "type": "I",
      "label": "I1",
      "text": "Sch. 2 art. 10 in force at 30.11.2011, see reg. 1(2)"
    }
  ],
  "outstanding_effects": [],
  "provenance": {
    "source": "legislation.gov.uk",
    "source_url": "https://www.legislation.gov.uk/wsi/2011/2680/schedule/2/paragraph/10",
    "retrieved_at": "2026-10-28T23:48:59.854695+00:00"
  },
  "licence": "Open Government Licence v3.0",
  "licence_url": "https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/",
  "attribution": "Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives."
}