# The RTM Companies (Model Articles) (Wales) Regulations 2011, Paragraph 10: Caiff cyfarwyddwyr ddirprwyo

Extent: E+W

(1) Yn ddarostyngedig i'r erthyglau, caiff y cyfarwyddwyr ddirprwyo unrhyw rai o'r pwerau a roddir iddynt o dan yr erthyglau—
(a) i ba bynnag berson neu bwyllgor;
(b) drwy ba bynnag ddull (gan gynnwys atwrneiaeth);
(c) i ba bynnag raddau;
(ch) mewn perthynas â pha bynnag faterion; a
(d) ar ba bynnag delerau ac amodau;
ag y tybiant yn briodol.
(2) Os yw'r cyfarwyddwyr yn pennu felly, caiff unrhyw ddirprwyo o'r fath awdurdodi dirprwyo pwerau'r cyfarwyddwyr ymhellach, gan unrhyw berson y dirprwywyd y pwerau iddo.
(3) Caiff y cyfarwyddwyr ddirymu unrhyw ddirprwyo yn gyfan gwbl neu'n rhannol, neu newid amodau a thelerau'r dirprwyo.

---
Source: https://www.legislation.gov.uk/wsi/2011/2680/schedule/2/paragraph/10 (the official version)
Page: https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011/schedule-2/paragraph-10
Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives.

