# The RTM Companies (Model Articles) (Wales) Regulations 2011, Paragraph 12: Cyfarwyddwyr i wneud penderfyniadau ar y cyd

Extent: E+W

(1) Y rheol gyffredinol ynglŷn â gwneud penderfyniadau gan gyfarwyddwyr yw fod rhaid i unrhyw benderfyniad gan y cyfarwyddwyr fod naill ai'n benderfyniad mwyafrif mewn cyfarfod neu'n benderfyniad a wneir yn unol ag erthygl 13.
(2) Os—
(a) un cyfarwyddwr yn unig sydd gan y cwmni, a
(b) nad oes darpariaeth o'r erthyglau sy'n ei gwneud yn ofynnol bod ganddo fwy nag un cyfarwyddwr,
nid yw'r rheol gyffredinol yn gymwys, a chaiff y cyfarwyddwr wneud penderfyniadau heb ystyried unrhyw ddarpariaethau o'r erthyglau mewn perthynas â gwneud penderfyniadau gan gyfarwyddwyr.

---
Source: https://www.legislation.gov.uk/wsi/2011/2680/schedule/2/paragraph/12 (the official version)
Page: https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011/schedule-2/paragraph-12
Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives.

