{
  "url": "https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011/schedule-2/paragraph-14",
  "json_url": "https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011/schedule-2/paragraph-14.json",
  "legislation": "wsi/2011/2680",
  "legislation_title": "The RTM Companies (Model Articles) (Wales) Regulations 2011",
  "legislation_url": "https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011",
  "path": "schedule/2/paragraph/14",
  "kind": "paragraph",
  "number": "14",
  "heading": "Galw cyfarfod cyfarwyddwyr",
  "text": "(1) Caiff unrhyw gyfarwyddwr alw cyfarfod o'r cyfarwyddwyr drwy roi hysbysiad o'r cyfarfod i'r cyfarwyddwyr neu drwy awdurdodi ysgrifennydd y cwmni (os oes ysgrifennydd) i roi hysbysiad o'r fath.\n(2) Rhaid i hysbysiad o unrhyw gyfarfod o'r cyfarwyddwyr bennu—\n(a) dyddiad ac amser arfaethedig y cyfarfod;\n(b) y man lle y'i cynhelir; ac\n(c) os rhagwelir na fydd y cyfarwyddwyr a fydd yn cymryd rhan yn y cyfarfod i gyd yn yr un man, sut y bwriedir iddynt gyfathrebu â'i gilydd yn ystod y cyfarfod.\n(3) Rhaid rhoi hysbysiad o gyfarfod o'r cyfarwyddwyr i bob cyfarwyddwr, ond nid oes raid i'r hysbysiad fod mewn ysgrifen.\n(4) Nid oes raid rhoi hysbysiad o gyfarfod o'r cyfarwyddwyr i gyfarwyddwyr sy'n ildio'u hawl i gael eu hysbysu o'r cyfarfod hwnnw, drwy roi hysbysiad i'r perwyl hwnnw i'r cwmni, ddim mwy na 7 diwrnod ar ôl y dyddiad y cynhelir y cyfarfod. Pan roddir hysbysiad o'r fath ar ôl cynnal y cyfarfod, nid yw hynny'n effeithio ar ddilysrwydd y cyfarfod nac unrhyw fusnes a gyflawnir ynddo.",
  "extent": "E+W",
  "status": null,
  "version": "current",
  "annotations": [
    {
      "type": "I",
      "label": "I1",
      "text": "Sch. 2 art. 14 in force at 30.11.2011, see reg. 1(2)"
    }
  ],
  "outstanding_effects": [],
  "provenance": {
    "source": "legislation.gov.uk",
    "source_url": "https://www.legislation.gov.uk/wsi/2011/2680/schedule/2/paragraph/14",
    "retrieved_at": "2026-10-28T23:48:59.854695+00:00"
  },
  "licence": "Open Government Licence v3.0",
  "licence_url": "https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/",
  "attribution": "Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives."
}