{
  "url": "https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011/schedule-2/paragraph-16",
  "json_url": "https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011/schedule-2/paragraph-16.json",
  "legislation": "wsi/2011/2680",
  "legislation_title": "The RTM Companies (Model Articles) (Wales) Regulations 2011",
  "legislation_url": "https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011",
  "path": "schedule/2/paragraph/16",
  "kind": "paragraph",
  "number": "16",
  "heading": "Cworwm ar gyfer cyfarfodydd cyfarwyddwyr",
  "text": "(1) Mewn cyfarfod cyfarwyddwyr, oni fydd cworwm yn cymryd rhan, rhaid peidio â phleidleisio ar unrhyw gynnig ac eithrio cynnig i alw cyfarfod arall.\n(2) Ceir pennu'r cworwm ar gyfer cyfarfodydd cyfarwyddwyr o bryd i'w gilydd gan benderfyniad y cyfarwyddwyr, ond ni chaiff y cworwm byth fod yn llai na dau, ac oni phennir fel arall, y cworwm fydd dau.\n(3) Os yw nifer cyfanswm y cyfarwyddwyr am y tro yn llai na'r cworwm gofynnol, rhaid i'r cyfarwyddwyr beidio â gwneud unrhyw benderfyniad ac eithrio penderfyniad—\n(a) i benodi cyfarwyddwyr ychwanegol, neu\n(b) i alw cyfarfod cyffredinol er mwyn galluogi'r aelodau i benodi cyfarwyddwyr ychwanegol.",
  "extent": "E+W",
  "status": null,
  "version": "current",
  "annotations": [
    {
      "type": "I",
      "label": "I1",
      "text": "Sch. 2 art. 16 in force at 30.11.2011, see reg. 1(2)"
    }
  ],
  "outstanding_effects": [],
  "provenance": {
    "source": "legislation.gov.uk",
    "source_url": "https://www.legislation.gov.uk/wsi/2011/2680/schedule/2/paragraph/16",
    "retrieved_at": "2026-10-28T23:48:59.854695+00:00"
  },
  "licence": "Open Government Licence v3.0",
  "licence_url": "https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/",
  "attribution": "Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives."
}