# The RTM Companies (Model Articles) (Wales) Regulations 2011, Paragraph 16: Cworwm ar gyfer cyfarfodydd cyfarwyddwyr

Extent: E+W

(1) Mewn cyfarfod cyfarwyddwyr, oni fydd cworwm yn cymryd rhan, rhaid peidio â phleidleisio ar unrhyw gynnig ac eithrio cynnig i alw cyfarfod arall.
(2) Ceir pennu'r cworwm ar gyfer cyfarfodydd cyfarwyddwyr o bryd i'w gilydd gan benderfyniad y cyfarwyddwyr, ond ni chaiff y cworwm byth fod yn llai na dau, ac oni phennir fel arall, y cworwm fydd dau.
(3) Os yw nifer cyfanswm y cyfarwyddwyr am y tro yn llai na'r cworwm gofynnol, rhaid i'r cyfarwyddwyr beidio â gwneud unrhyw benderfyniad ac eithrio penderfyniad—
(a) i benodi cyfarwyddwyr ychwanegol, neu
(b) i alw cyfarfod cyffredinol er mwyn galluogi'r aelodau i benodi cyfarwyddwyr ychwanegol.

---
Source: https://www.legislation.gov.uk/wsi/2011/2680/schedule/2/paragraph/16 (the official version)
Page: https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011/schedule-2/paragraph-16
Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives.

