# The RTM Companies (Model Articles) (Wales) Regulations 2011, Paragraph 17: Cadeirio cyfarfodydd cyfarwyddwyr

Extent: E+W

(1) Caiff y cyfarwyddwyr benodi cyfarwyddwr i weithredu fel cadeirydd yn eu cyfarfodydd.
(2) Cyfeirir at y person a benodir felly am y tro fel y cadeirydd.
(3) Caiff y cyfarwyddwyr derfynu penodiad y cadeirydd ar unrhyw adeg.
(4) Os na fydd y cadeirydd yn cymryd rhan mewn cyfarfod cyfarwyddwyr o fewn deng munud o'r amser a bennwyd i gychwyn y cyfarfod, rhaid i'r cyfarwyddwyr sy'n cymryd rhan benodi un o'u plith i weithredu fel cadeirydd.

---
Source: https://www.legislation.gov.uk/wsi/2011/2680/schedule/2/paragraph/17 (the official version)
Page: https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011/schedule-2/paragraph-17
Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives.

