{
  "url": "https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011/schedule-2/paragraph-19",
  "json_url": "https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011/schedule-2/paragraph-19.json",
  "legislation": "wsi/2011/2680",
  "legislation_title": "The RTM Companies (Model Articles) (Wales) Regulations 2011",
  "legislation_url": "https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011",
  "path": "schedule/2/paragraph/19",
  "kind": "paragraph",
  "number": "19",
  "heading": "Gwrthdrawiadau buddiannau",
  "text": "(1) Os yw penderfyniad arfaethedig gan y cyfarwyddwyr yn ymwneud â thrafodiad neu drefniant gwirioneddol neu arfaethedig gyda'r cwmni, a buddiant gan gyfarwyddwr yn y trafodiad neu'r trefniant hwnnw, rhaid peidio â chyfrif y cyfarwyddwr hwnnw fel un sy'n cymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau, at ddibenion cworwm neu bleidleisio.\n(2) Ond os yw paragraff (3) yn gymwys, rhaid cyfrif cyfarwyddwr, sydd â buddiant mewn trafodiad neu drefniant gwirioneddol neu arfaethedig gyda'r cwmni, fel un sy'n cymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau, at ddibenion cworwm a phleidleisio.\n(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys—\n(a) pan fo'r cwmni, drwy benderfyniad cyffredin, yn datgymhwyso'r ddarpariaeth o'r erthyglau a fyddai, fel arall, yn rhwystro cyfarwyddwr rhag cael ei gyfrif fel un sy'n cymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau;\n(b) pan na ellir, yn rhesymol, ystyried bod buddiant y cyfarwyddwr yn debygol o achosi gwrthdrawiad buddiannau; neu\n(c) pan fo gwrthdrawiad buddiannau'r cyfarwyddwr yn tarddu o achos a ganiateir.\n(4) At ddibenion yr erthygl hon, mae'r canlynol yn achosion a ganiateir—\n(a) gwarant a roddwyd, neu sydd i'w rhoi, gan neu i gyfarwyddwr mewn perthynas â rhwymedigaeth a dynnwyd gan neu ar ran y cwmni neu unrhyw un o'i is-gwmnïau;\n(b) tanysgrifiad, neu gytundeb i danysgrifio, am warannau'r cwmni neu unrhyw un o'i is-gwmnïau, neu danysgrifennu neu is-danysgrifennu neu warantu tanysgrifiad am unrhyw warannau o'r fath; ac\n(c) trefniadau y rhoddir buddion yn unol â hwy i gyflogeion a chyfarwyddwyr neu gyn-gyflogeion a chyn-gyfarwyddwyr y cwmni neu unrhyw un o'i is-gwmnïau, ac nad ydynt yn darparu buddion arbennig i gyfarwyddwyr neu gyn-gyfarwyddwyr.\n(5) At ddibenion yr erthygl hon, mae cyfeiriadau at benderfyniadau arfaethedig a phrosesau gwneud penderfyniadau yn cynnwys unrhyw gyfarfod cyfarwyddwyr neu ran o gyfarfod cyfarwyddwyr.\n(6) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), os oes cwestiwn yn codi mewn cyfarfod cyfarwyddwyr neu mewn pwyllgor o'r cyfarwyddwyr ynghylch hawl cyfarwyddwr i gymryd rhan yn y cyfarfod (neu ran o'r cyfarfod) at ddibenion pleidleisio neu gworwm, ceir cyfeirio'r cwestiwn, cyn diwedd y cyfarfod, i'r cadeirydd, a bydd dyfarniad y cadeirydd, mewn perthynas ag unrhyw gyfarwyddwr ac eithrio'r cadeirydd, yn derfynol a phendant.\n(7) Os oes unrhyw gwestiwn ynghylch hawl i gymryd rhan yn y cyfarfod (neu ran o'r cyfarfod) yn codi mewn perthynas â'r cadeirydd, rhaid penderfynu'r cwestiwn drwy benderfyniad o'r cyfarwyddwyr yn y cyfarfod hwnnw, ac at y diben hwnnw, ni cheir cyfrif y cadeirydd fel un sy'n cymryd rhan yn y cyfarfod (neu'r rhan honno o'r cyfarfod) at ddibenion pleidleisio neu gworwm.",
  "extent": "E+W",
  "status": null,
  "version": "current",
  "annotations": [
    {
      "type": "I",
      "label": "I1",
      "text": "Sch. 2 art. 19 in force at 30.11.2011, see reg. 1(2)"
    }
  ],
  "outstanding_effects": [],
  "provenance": {
    "source": "legislation.gov.uk",
    "source_url": "https://www.legislation.gov.uk/wsi/2011/2680/schedule/2/paragraph/19",
    "retrieved_at": "2026-10-28T23:48:59.854695+00:00"
  },
  "licence": "Open Government Licence v3.0",
  "licence_url": "https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/",
  "attribution": "Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives."
}