# The RTM Companies (Model Articles) (Wales) Regulations 2011, Paragraph 19: Gwrthdrawiadau buddiannau

Extent: E+W

(1) Os yw penderfyniad arfaethedig gan y cyfarwyddwyr yn ymwneud â thrafodiad neu drefniant gwirioneddol neu arfaethedig gyda'r cwmni, a buddiant gan gyfarwyddwr yn y trafodiad neu'r trefniant hwnnw, rhaid peidio â chyfrif y cyfarwyddwr hwnnw fel un sy'n cymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau, at ddibenion cworwm neu bleidleisio.
(2) Ond os yw paragraff (3) yn gymwys, rhaid cyfrif cyfarwyddwr, sydd â buddiant mewn trafodiad neu drefniant gwirioneddol neu arfaethedig gyda'r cwmni, fel un sy'n cymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau, at ddibenion cworwm a phleidleisio.
(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys—
(a) pan fo'r cwmni, drwy benderfyniad cyffredin, yn datgymhwyso'r ddarpariaeth o'r erthyglau a fyddai, fel arall, yn rhwystro cyfarwyddwr rhag cael ei gyfrif fel un sy'n cymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau;
(b) pan na ellir, yn rhesymol, ystyried bod buddiant y cyfarwyddwr yn debygol o achosi gwrthdrawiad buddiannau; neu
(c) pan fo gwrthdrawiad buddiannau'r cyfarwyddwr yn tarddu o achos a ganiateir.
(4) At ddibenion yr erthygl hon, mae'r canlynol yn achosion a ganiateir—
(a) gwarant a roddwyd, neu sydd i'w rhoi, gan neu i gyfarwyddwr mewn perthynas â rhwymedigaeth a dynnwyd gan neu ar ran y cwmni neu unrhyw un o'i is-gwmnïau;
(b) tanysgrifiad, neu gytundeb i danysgrifio, am warannau'r cwmni neu unrhyw un o'i is-gwmnïau, neu danysgrifennu neu is-danysgrifennu neu warantu tanysgrifiad am unrhyw warannau o'r fath; ac
(c) trefniadau y rhoddir buddion yn unol â hwy i gyflogeion a chyfarwyddwyr neu gyn-gyflogeion a chyn-gyfarwyddwyr y cwmni neu unrhyw un o'i is-gwmnïau, ac nad ydynt yn darparu buddion arbennig i gyfarwyddwyr neu gyn-gyfarwyddwyr.
(5) At ddibenion yr erthygl hon, mae cyfeiriadau at benderfyniadau arfaethedig a phrosesau gwneud penderfyniadau yn cynnwys unrhyw gyfarfod cyfarwyddwyr neu ran o gyfarfod cyfarwyddwyr.
(6) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), os oes cwestiwn yn codi mewn cyfarfod cyfarwyddwyr neu mewn pwyllgor o'r cyfarwyddwyr ynghylch hawl cyfarwyddwr i gymryd rhan yn y cyfarfod (neu ran o'r cyfarfod) at ddibenion pleidleisio neu gworwm, ceir cyfeirio'r cwestiwn, cyn diwedd y cyfarfod, i'r cadeirydd, a bydd dyfarniad y cadeirydd, mewn perthynas ag unrhyw gyfarwyddwr ac eithrio'r cadeirydd, yn derfynol a phendant.
(7) Os oes unrhyw gwestiwn ynghylch hawl i gymryd rhan yn y cyfarfod (neu ran o'r cyfarfod) yn codi mewn perthynas â'r cadeirydd, rhaid penderfynu'r cwestiwn drwy benderfyniad o'r cyfarwyddwyr yn y cyfarfod hwnnw, ac at y diben hwnnw, ni cheir cyfrif y cadeirydd fel un sy'n cymryd rhan yn y cyfarfod (neu'r rhan honno o'r cyfarfod) at ddibenion pleidleisio neu gworwm.

---
Source: https://www.legislation.gov.uk/wsi/2011/2680/schedule/2/paragraph/19 (the official version)
Page: https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011/schedule-2/paragraph-19
Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives.

