{
  "url": "https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011/schedule-2/paragraph-22",
  "json_url": "https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011/schedule-2/paragraph-22.json",
  "legislation": "wsi/2011/2680",
  "legislation_title": "The RTM Companies (Model Articles) (Wales) Regulations 2011",
  "legislation_url": "https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011",
  "path": "schedule/2/paragraph/22",
  "kind": "paragraph",
  "number": "22",
  "heading": "Dulliau o benodi cyfarwyddwyr",
  "text": "(1) Ceir penodi yn gyfarwyddwr unrhyw berson sy'n fodlon i weithredu fel cyfarwyddwr, ac y caniateir iddo wneud hynny gan y gyfraith, naill ai—\n(a) drwy benderfyniad cyffredin, neu\n(b) drwy benderfyniad y cyfarwyddwyr.\n(2) Mewn unrhyw achos pan, oherwydd marwolaeth, nad oes gan y cwmni unrhyw aelodau na chyfarwyddwyr, mae hawl gan gynrychiolwyr personol yr aelod olaf a fu farw, drwy hysbysiad ysgrifenedig, i benodi person i fod yn gyfarwyddwr.\n(3) At ddibenion paragraff (2), os bu 2 neu ragor o aelodau farw mewn amgylchiadau sy'n creu ansicrwydd pa un a fu farw ddiwethaf, rhaid tybio bod yr aelod ieuengaf wedi goroesi aelod hŷn.",
  "extent": "E+W",
  "status": null,
  "version": "current",
  "annotations": [
    {
      "type": "I",
      "label": "I1",
      "text": "Sch. 2 art. 22 in force at 30.11.2011, see reg. 1(2)"
    }
  ],
  "outstanding_effects": [],
  "provenance": {
    "source": "legislation.gov.uk",
    "source_url": "https://www.legislation.gov.uk/wsi/2011/2680/schedule/2/paragraph/22",
    "retrieved_at": "2026-10-28T23:48:59.854695+00:00"
  },
  "licence": "Open Government Licence v3.0",
  "licence_url": "https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/",
  "attribution": "Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives."
}