# The RTM Companies (Model Articles) (Wales) Regulations 2011, Paragraph 23: Terfynu penodiad cyfarwyddwr

Extent: E+W

Mae person yn peidio â bod yn gyfarwyddwr cyn gynted ag—
(a) y bo'r person hwnnw'n peidio â bod yn gyfarwyddwr yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth o'r Deddfau Cwmnïau neu y gwaherddir ef drwy gyfraith rhag bod yn gyfarwyddwr;
(b) y gwneir gorchymyn methdalu yn erbyn y person hwnnw;
(c) y gwneir compównd gyda chredydwyr y person hwnnw yn gyffredinol, er mwyn bodloni dyledion y person hwnnw;
(ch) y cyflwynir i'r cwmni farn ysgrifenedig gan ymarferydd meddygol cofrestredig sy'n trin y person hwnnw, yn datgan bod y person hwnnw wedi mynd yn analluog, yn gorfforol neu'n feddyliol, i weithredu fel cyfarwyddwr, ac y gallai'r person hwnnw barhau felly am fwy na thri mis;
(d) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(dd) y caiff y cwmni hysbysiad gan y cyfarwyddwr ei fod yn ymddiswyddo, a'r cyfryw ymddiswyddiad wedi cael effaith yn unol â thelerau'r hysbysiad.

---
Source: https://www.legislation.gov.uk/wsi/2011/2680/schedule/2/paragraph/23 (the official version)
Page: https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011/schedule-2/paragraph-23
Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives.

