{
  "url": "https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011/schedule-2/paragraph-26",
  "json_url": "https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011/schedule-2/paragraph-26.json",
  "legislation": "wsi/2011/2680",
  "legislation_title": "The RTM Companies (Model Articles) (Wales) Regulations 2011",
  "legislation_url": "https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011",
  "path": "schedule/2/paragraph/26",
  "kind": "paragraph",
  "number": "26",
  "heading": "Cais am aelodaeth",
  "text": "(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i bob person sy'n dymuno dod yn aelod o'r cwmni draddodi i'r cwmni gais cyflawn am aelodaeth yn y ffurf ganlynol (neu mewn ffurf sydd mor agos at y ffurf ganlynol ag y mae amgylchiadau'n caniatáu, neu mewn unrhyw ffurf arall sy'n arferol neu a gymeradwyir gan y cyfarwyddwyr):\nAt Fwrdd [enw'r cwmni], Yr wyf i, [enw] o [cyfeiriad] yn denant cymwys o [cyfeiriad y fflat] ac yn dymuno dod yn aelod o [enw'r cwmni] yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Erthyglau Cymdeithasu'r cwmni ac i unrhyw reolau a wnaed o dan yr Erthyglau hynny. Yr wyf yn cytuno i dalu i'r cwmni swm o hyd at £1 os caiff y cwmni ei ddirwyn i ben tra byddaf yn aelod neu hyd at 12 mis wedi imi beidio â bod yn aelod. [Llofnodwyd gan y ceisydd] [Dyddiedig]\n(2) Nid oes hawl gan unrhyw berson i gael ei dderbyn yn aelod o'r cwmni onid yw'r person hwnnw, naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd ag eraill—\n(a) yn denant cymwys o fflat sydd yn y Fangre, fel a bennir yn adran 75 o Ddeddf 2002; neu\n(b) o'r dyddiad y mae'r cwmni'n caffael yr hawl i reoli'r Fangre yn unol â Deddf 2002, yn landlord o dan les o'r cyfan neu ran o'r Fangre.\n(3) Mae person sydd, ynghyd â rhywun arall neu rywrai eraill, i'w ystyried yn gyd-denant cymwys o fflat neu'n gyd-landlord o dan les o'r cyfan neu ran o'r Fangre, i'w ystyried, unwaith y bydd wedi ei dderbyn, yn gyd-aelod o'r cwmni mewn perthynas â'r fflat neu'r les honno (yn ôl fel y digwydd).\n(4) Rhaid i geisiadau am aelodaeth gan bersonau sydd i'w hystyried yn gyd-denant cymwys o fflat neu'n gyd-landlord o dan les o'r cyfan neu ran o'r Fangre, ddatgan enwau a chyfeiriadau pob un arall sydd â buddiant ar y cyd â hwy, ac ym mha drefn y maent yn dymuno ymddangos ar y gofrestr o aelodau mewn perthynas â'r cyfryw fflat neu les (yn ôl fel y digwydd).\n(5) Rhaid i'r cyfarwyddwyr, unwaith y byddant wedi eu bodloni ynglŷn â chais y person a'i hawl i fod yn aelod, gofrestru'r cyfryw berson yn aelod o'r cwmni.",
  "extent": "E+W",
  "status": null,
  "version": "current",
  "annotations": [
    {
      "type": "I",
      "label": "I1",
      "text": "Sch. 2 art. 26 in force at 30.11.2011, see reg. 1(2)"
    },
    {
      "type": "X",
      "label": "X1",
      "text": "Sch. 2 art. 26(4): although no corresponding change has been made to the Welsh text of this provision, an amendment has been made to the English text in Sch. 1 art. 26(4) (30.6.2016) by The Companies and Limited Liability Partnerships (Filing Requirements) Regulations 2016 (S.I. 2016/599), reg. 1, Sch. 3 para. 9(a)"
    }
  ],
  "outstanding_effects": [],
  "provenance": {
    "source": "legislation.gov.uk",
    "source_url": "https://www.legislation.gov.uk/wsi/2011/2680/schedule/2/paragraph/26",
    "retrieved_at": "2026-10-28T23:48:59.854695+00:00"
  },
  "licence": "Open Government Licence v3.0",
  "licence_url": "https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/",
  "attribution": "Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives."
}