# The RTM Companies (Model Articles) (Wales) Regulations 2011, Paragraph 26: Cais am aelodaeth

Extent: E+W

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i bob person sy'n dymuno dod yn aelod o'r cwmni draddodi i'r cwmni gais cyflawn am aelodaeth yn y ffurf ganlynol (neu mewn ffurf sydd mor agos at y ffurf ganlynol ag y mae amgylchiadau'n caniatáu, neu mewn unrhyw ffurf arall sy'n arferol neu a gymeradwyir gan y cyfarwyddwyr):
At Fwrdd [enw'r cwmni], Yr wyf i, [enw] o [cyfeiriad] yn denant cymwys o [cyfeiriad y fflat] ac yn dymuno dod yn aelod o [enw'r cwmni] yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Erthyglau Cymdeithasu'r cwmni ac i unrhyw reolau a wnaed o dan yr Erthyglau hynny. Yr wyf yn cytuno i dalu i'r cwmni swm o hyd at £1 os caiff y cwmni ei ddirwyn i ben tra byddaf yn aelod neu hyd at 12 mis wedi imi beidio â bod yn aelod. [Llofnodwyd gan y ceisydd] [Dyddiedig]
(2) Nid oes hawl gan unrhyw berson i gael ei dderbyn yn aelod o'r cwmni onid yw'r person hwnnw, naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd ag eraill—
(a) yn denant cymwys o fflat sydd yn y Fangre, fel a bennir yn adran 75 o Ddeddf 2002; neu
(b) o'r dyddiad y mae'r cwmni'n caffael yr hawl i reoli'r Fangre yn unol â Deddf 2002, yn landlord o dan les o'r cyfan neu ran o'r Fangre.
(3) Mae person sydd, ynghyd â rhywun arall neu rywrai eraill, i'w ystyried yn gyd-denant cymwys o fflat neu'n gyd-landlord o dan les o'r cyfan neu ran o'r Fangre, i'w ystyried, unwaith y bydd wedi ei dderbyn, yn gyd-aelod o'r cwmni mewn perthynas â'r fflat neu'r les honno (yn ôl fel y digwydd).
(4) Rhaid i geisiadau am aelodaeth gan bersonau sydd i'w hystyried yn gyd-denant cymwys o fflat neu'n gyd-landlord o dan les o'r cyfan neu ran o'r Fangre, ddatgan enwau a chyfeiriadau pob un arall sydd â buddiant ar y cyd â hwy, ac ym mha drefn y maent yn dymuno ymddangos ar y gofrestr o aelodau mewn perthynas â'r cyfryw fflat neu les (yn ôl fel y digwydd).
(5) Rhaid i'r cyfarwyddwyr, unwaith y byddant wedi eu bodloni ynglŷn â chais y person a'i hawl i fod yn aelod, gofrestru'r cyfryw berson yn aelod o'r cwmni.

---
Source: https://www.legislation.gov.uk/wsi/2011/2680/schedule/2/paragraph/26 (the official version)
Page: https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011/schedule-2/paragraph-26
Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives.

