# The RTM Companies (Model Articles) (Wales) Regulations 2011, Paragraph 28: Presenoldeb a siarad mewn cyfarfodydd cyffredinol

Extent: E+W

(1) Mae gan berson y gallu i arfer yr hawl i siarad mewn cyfarfod cyffredinol pan fo'r person hwnnw mewn sefyllfa i gyfathrebu i bawb sy'n bresennol yn y cyfarfod, yn ystod y cyfarfod, unrhyw wybodaeth neu farnau sydd gan y person hwnnw ynglŷn â busnes y cyfarfod.
(2) Mae gan berson y gallu i arfer yr hawl i bleidleisio mewn cyfarfod cyffredinol—
(a) os gall y person hwnnw bleidleisio, yn ystod y cyfarfod, ar benderfyniadau y pleidleisir arnynt yn y cyfarfod, a
(b) os gellir cymryd pleidlais y person hwnnw i ystyriaeth wrth benderfynu pa un a basiwyd penderfyniadau o'r fath ai peidio ar yr un pryd â phleidleisiau pob person arall sy'n bresennol yn y cyfarfod.
(3) Caiff y cyfarwyddwyr wneud pa bynnag drefniadau a ystyriant yn briodol i alluogi'r rhai sy'n bresennol mewn cyfarfod cyffredinol i arfer eu hawl i siarad neu bleidleisio ynddo.
(4) Wrth benderfynu ynghylch presenoldeb mewn cyfarfod cyffredinol, nid yw'n berthnasol pa un a yw unrhyw ddau neu ragor o'r aelodau sy'n bresennol yn yr un lle â'i gilydd ai peidio.
(5) Mae dau neu ragor o bersonau nad ydynt yn yr un lle â'i gilydd yn bresennol mewn cyfarfod cyffredinol os yw eu hamgylchiadau yn rhai sy'n caniatáu, os oes ganddynt (neu pe byddai ganddynt) hawliau i siarad a phleidleisio yn y cyfarfod hwnnw, y gallant (neu y gallent) arfer yr hawliau hynny.

---
Source: https://www.legislation.gov.uk/wsi/2011/2680/schedule/2/paragraph/28 (the official version)
Page: https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011/schedule-2/paragraph-28
Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives.

