{
  "url": "https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011/schedule-2/paragraph-32",
  "json_url": "https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011/schedule-2/paragraph-32.json",
  "legislation": "wsi/2011/2680",
  "legislation_title": "The RTM Companies (Model Articles) (Wales) Regulations 2011",
  "legislation_url": "https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011",
  "path": "schedule/2/paragraph/32",
  "kind": "paragraph",
  "number": "32",
  "heading": "Gohirio",
  "text": "(1) Os nad yw'r personau sy'n bresennol mewn cyfarfod cyffredinol yn cyfansoddi cworwm o fewn hanner awr ar ôl yr amser a bennwyd ar gyfer cychwyn y cyfarfod, neu os yw cworwm yn peidio â bod yn bresennol yn ystod cyfarfod, rhaid i gadeirydd y cyfarfod ohirio'r cyfarfod.\n(2) Caiff cadeirydd y cyfarfod ohirio cyfarfod cyffredinol y mae cworwm yn bresennol ynddo—\n(a) os yw'r cyfarfod yn cydsynio i'w ohirio, neu\n(b) os yw'n ymddangos i gadeirydd y cyfarfod bod gohirio'n angenrheidiol er mwyn amddiffyn diogelwch unrhyw berson sy'n bresennol yn y cyfarfod neu sicrhau y cyflawnir busnes y cyfarfod mewn modd trefnus.\n(3) Rhaid i gadeirydd y cyfarfod ohirio cyfarfod cyffredinol os cyfarwyddir ef i wneud hynny gan y cyfarfod.\n(4) Wrth ohirio cyfarfod cyffredinol, rhaid i gadeirydd y cyfarfod—\n(a) naill ai bennu'r amser a'r lle y cynhelir y cyfarfod gohiriedig neu ddatgan y parheir y cyfarfod ar yr amser ac mewn lle sydd i'w pennu gan y cyfarwyddwyr, a\n(b) rhoi sylw i unrhyw gyfarwyddiadau a roddwyd gan y cyfarfod ynglŷn ag amser a lleoliad unrhyw gyfarfod gohiriedig.\n(5) Os yw'r cyfarfod gohiriedig i'w barhau ymhen mwy na 14 diwrnod ar ôl ei ohirio, rhaid i'r cwmni roi hysbysiad y'i cynhelir o leiaf 7 diwrnod clir (hynny yw, heb gynnwys diwrnod y cyfarfod gohiriedig na'r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad) ymlaen llaw—\n(a) i'r un personau y mae'n ofynnol rhoi iddynt hysbysiad o gyfarfodydd cyffredinol y cwmni, a\n(b) gan gynnwys yr un wybodaeth ag y mae'n ofynnol i hysbysiad o'r fath ei chynnwys.\n(6) Ni cheir trafod unrhyw fusnes mewn cyfarfod cyffredinol gohiriedig, na ellid bod wedi ei drafod yn briodol yn y cyfarfod pe na bai'r gohirio wedi digwydd.",
  "extent": "E+W",
  "status": null,
  "version": "current",
  "annotations": [
    {
      "type": "I",
      "label": "I1",
      "text": "Sch. 2 art. 32 in force at 30.11.2011, see reg. 1(2)"
    }
  ],
  "outstanding_effects": [],
  "provenance": {
    "source": "legislation.gov.uk",
    "source_url": "https://www.legislation.gov.uk/wsi/2011/2680/schedule/2/paragraph/32",
    "retrieved_at": "2026-10-28T23:48:59.854695+00:00"
  },
  "licence": "Open Government Licence v3.0",
  "licence_url": "https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/",
  "attribution": "Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives."
}