# The RTM Companies (Model Articles) (Wales) Regulations 2011, Paragraph 32: Gohirio

Extent: E+W

(1) Os nad yw'r personau sy'n bresennol mewn cyfarfod cyffredinol yn cyfansoddi cworwm o fewn hanner awr ar ôl yr amser a bennwyd ar gyfer cychwyn y cyfarfod, neu os yw cworwm yn peidio â bod yn bresennol yn ystod cyfarfod, rhaid i gadeirydd y cyfarfod ohirio'r cyfarfod.
(2) Caiff cadeirydd y cyfarfod ohirio cyfarfod cyffredinol y mae cworwm yn bresennol ynddo—
(a) os yw'r cyfarfod yn cydsynio i'w ohirio, neu
(b) os yw'n ymddangos i gadeirydd y cyfarfod bod gohirio'n angenrheidiol er mwyn amddiffyn diogelwch unrhyw berson sy'n bresennol yn y cyfarfod neu sicrhau y cyflawnir busnes y cyfarfod mewn modd trefnus.
(3) Rhaid i gadeirydd y cyfarfod ohirio cyfarfod cyffredinol os cyfarwyddir ef i wneud hynny gan y cyfarfod.
(4) Wrth ohirio cyfarfod cyffredinol, rhaid i gadeirydd y cyfarfod—
(a) naill ai bennu'r amser a'r lle y cynhelir y cyfarfod gohiriedig neu ddatgan y parheir y cyfarfod ar yr amser ac mewn lle sydd i'w pennu gan y cyfarwyddwyr, a
(b) rhoi sylw i unrhyw gyfarwyddiadau a roddwyd gan y cyfarfod ynglŷn ag amser a lleoliad unrhyw gyfarfod gohiriedig.
(5) Os yw'r cyfarfod gohiriedig i'w barhau ymhen mwy na 14 diwrnod ar ôl ei ohirio, rhaid i'r cwmni roi hysbysiad y'i cynhelir o leiaf 7 diwrnod clir (hynny yw, heb gynnwys diwrnod y cyfarfod gohiriedig na'r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad) ymlaen llaw—
(a) i'r un personau y mae'n ofynnol rhoi iddynt hysbysiad o gyfarfodydd cyffredinol y cwmni, a
(b) gan gynnwys yr un wybodaeth ag y mae'n ofynnol i hysbysiad o'r fath ei chynnwys.
(6) Ni cheir trafod unrhyw fusnes mewn cyfarfod cyffredinol gohiriedig, na ellid bod wedi ei drafod yn briodol yn y cyfarfod pe na bai'r gohirio wedi digwydd.

---
Source: https://www.legislation.gov.uk/wsi/2011/2680/schedule/2/paragraph/32 (the official version)
Page: https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011/schedule-2/paragraph-32
Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives.

