{
  "url": "https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011/schedule-2/paragraph-33",
  "json_url": "https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011/schedule-2/paragraph-33.json",
  "legislation": "wsi/2011/2680",
  "legislation_title": "The RTM Companies (Model Articles) (Wales) Regulations 2011",
  "legislation_url": "https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011",
  "path": "schedule/2/paragraph/33",
  "kind": "paragraph",
  "number": "33",
  "heading": "Pleidleisio: cyffredinol",
  "text": "(1) Rhaid i benderfyniad y pleidleisir arno mewn cyfarfod cyffredinol gael ei benderfynu drwy ddangos dwylo oni ofynnir yn briodol am gynnal pôl yn unol â'r erthyglau.\n(2) Os nad oes landlordiaid o dan lesoedd o'r cyfan neu unrhyw ran o'r Fangre yn aelodau o'r cwmni, yna bydd un bleidlais ar gael i'w bwrw mewn perthynas â phob fflat yn y Fangre. Rhaid i'r bleidlais gael ei bwrw gan yr aelod sy'n denant cymwys y fflat.\n(3) Ar unrhyw adeg pan fo unrhyw landlordiaid o dan lesoedd o'r cyfan neu unrhyw ran o'r Fangre yn aelodau o'r cwmni, penderfynir ar y pleidleisiau sydd ar gael i'w bwrw fel a ganlyn—\n(a) yn gyntaf, dyrennir i bob uned breswyl yn y Fangre yr un nifer o bleidleisiau sy'n hafal i gyfanswm nifer aelodau'r cwmni sy'n landlordiaid o dan lesoedd o'r cyfan neu unrhyw ran o'r Fangre. Bydd landlordiaid o dan les o'r fath yr ystyrir eu bod yn gyd-aelod o'r cwmni eu cyfrif fel un aelod at y diben hwn;\n(b) os yw'r Fangre ar unrhyw adeg yn cynnwys unrhyw ran ddibreswyl, dyrennir cyfanswm nifer pleidleisiau i'r rhan honno sy'n hafal i gyfanswm nifer y pleidleisiau a ddyrannwyd i'r unedau preswyl wedi'i luosi â'r ffactor A/B, lle mae A yn gyfanswm arwynebedd llawr mewnol y rhannau dibreswyl a B yn gyfanswm arwynebedd mewnol yr holl rannau preswyl. Rhaid penderfynu ar rannau dibreswyl ac arwynebedd llawr mewnol yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 6 i Ddeddf 2002. Rhaid cyfrifo mesur arwynebedd y llawr mewnol mewn metrau sgwâr, gan anwybyddu ffracsiynau o arwynebedd llawr sy'n llai na hanner metr sgwâr a chyfrif ffracsiynau o arwynebedd llawr sydd dros hanner metr sgwâr fel metr sgwâr cyfan;\n(c) yr aelod sy'n denant cymwys uned breswyl sydd â'r hawl i fwrw'r pleidleisiau a ddyrannwyd i'r uned honno, neu os nad oes tenant cymwys gan yr uned honno, yr aelod sy'n landlord uniongyrchol sydd â'r hawl honno. Ni fydd gan y landlord uniongyrchol yr hawl i bleidlais uned breswyl a ddelir gan denant cymwys nad yw'n aelod o'r cwmni RTM;\n(ch) landlord uniongyrchol rhan ddibreswyl o'r Fangre sydd â'r hawl i fwrw'r pleidleisiau a ddyrannwyd i'r rhan honno, neu os nad oes les o'r rhan ddibreswyl, y rhydd-ddeiliad sydd â'r hawl honno. Os oes mwy nag un person o'r fath, rhaid rhannu cyfanswm nifer y pleidleisiau a ddyrannwyd i'r rhan ddibreswyl rhyngddynt, yn ôl cyfran arwynebedd llawr mewnol eu rhannau perthnasol. Rhaid diystyru unrhyw hawl ganlyniadol i ffracsiwn o bleidlais;\n(d) os nad yw uned breswyl yn ddarostyngedig i unrhyw les, nid oes hawl i fwrw unrhyw bleidleisiau mewn perthynas â hi;\n(dd) mae gan unrhyw berson nad oes ganddo hawl fel arall i unrhyw bleidleisiau yr hawl i un bleidlais os yw’r person hwnnw—\n(i) yn rhydd-ddeiliad y Fangre,\n(ii) yn landlord o dan les neu lesoedd o’r cyfan neu unrhyw ran o’r Fangre, a\n(iii) yn aelod o’r cwmni;\n(e) rhaid i’r pleidleisiau sy’n arferadwy gan landlordiaid o dan lesoedd o’r cyfan neu unrhyw ran o’r Fangre gael eu capio ar draean o’r pleidleisiau sy’n arferadwy gan denantiaid cymwys.\n(4) Yn achos personau yr ystyrir eu bod yn gyd-aelodau o'r cwmni, caiff unrhyw berson o'r fath arfer yr hawliau pleidleisio sydd gan yr aelodau hynny ar y cyd, ond os oes mwy nag un person o'r fath yn cyflwyno pleidlais, naill ai'n bersonol neu drwy ddirprwy, caiff pleidlais y blaenaf ohonynt ei derbyn tra gwaherddir pleidleisiau'r lleill, a phenderfynir y flaenoriaeth yn ôl y drefn y mae enwau'r personau hynny yn ymddangos yn y gofrestr aelodau mewn perthynas â'r fflat neu'r les (yn ôl fel y digwydd) y mae ganddynt fuddiant ynddo neu ynddi.",
  "extent": "E+W",
  "status": null,
  "version": "current",
  "annotations": [
    {
      "type": "F",
      "label": "F1",
      "text": "Sch. 2 art. 33(3)(dd) substituted (3.3.2025) by The RTM Companies (Model Articles) (Wales) (Amendment) Regulations 2025 (S.I. 2025/126), regs. 1, 2(3)(b)(i)"
    },
    {
      "type": "F",
      "label": "F2",
      "text": "Sch. 2 art. 33(3)(e) inserted (3.3.2025) by The RTM Companies (Model Articles) (Wales) (Amendment) Regulations 2025 (S.I. 2025/126), regs. 1, 2(3)(b)(ii)"
    },
    {
      "type": "I",
      "label": "I1",
      "text": "Sch. 2 art. 33 in force at 30.11.2011, see reg. 1(2)"
    },
    {
      "type": "X",
      "label": "X1",
      "text": "Sch. 2 art. 33(4): although no corresponding change has been made to the Welsh text of this provision, an amendment has been made to the English text in Sch. 1 art. 33(4) (30.6.2016) by The Companies and Limited Liability Partnerships (Filing Requirements) Regulations 2016 (S.I. 2016/599), reg. 1, Sch. 3 para. 9(b)"
    }
  ],
  "outstanding_effects": [],
  "provenance": {
    "source": "legislation.gov.uk",
    "source_url": "https://www.legislation.gov.uk/wsi/2011/2680/schedule/2/paragraph/33",
    "retrieved_at": "2026-10-28T23:48:59.854695+00:00"
  },
  "licence": "Open Government Licence v3.0",
  "licence_url": "https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/",
  "attribution": "Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives."
}