# The RTM Companies (Model Articles) (Wales) Regulations 2011, Paragraph 34: Gwallau ac anghydfodau

Extent: E+W

(1) Ni cheir codi gwrthwynebiad i gymhwyster unrhyw berson sy'n pleidleisio mewn cyfarfod cyffredinol ac eithrio yn y cyfarfod neu'r cyfarfod gohiriedig y cyflwynir y bleidlais a wrthwynebir ynddo, ac y mae pob pleidlais nas gwrthodir yn y cyfarfod yn ddilys.
(2) Rhaid cyfeirio unrhyw wrthwynebiad o'r fath i gadeirydd y cyfarfod, ac y mae penderfyniad cadeirydd y cyfarfod yn derfynol.

---
Source: https://www.legislation.gov.uk/wsi/2011/2680/schedule/2/paragraph/34 (the official version)
Page: https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011/schedule-2/paragraph-34
Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives.

