{
  "url": "https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011/schedule-2/paragraph-35",
  "json_url": "https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011/schedule-2/paragraph-35.json",
  "legislation": "wsi/2011/2680",
  "legislation_title": "The RTM Companies (Model Articles) (Wales) Regulations 2011",
  "legislation_url": "https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011",
  "path": "schedule/2/paragraph/35",
  "kind": "paragraph",
  "number": "35",
  "heading": "Pleidleisiau pôl",
  "text": "(1) Ceir galw am gynnal pôl ar benderfyniad—\n(a) cyn cynnal y cyfarfod blynyddol lle y bwriedir pleidleisio ar y penderfyniad, neu\n(b) mewn cyfarfod cyffredinol, naill ai cyn pleidleisio drwy ddangos dwylo ar y penderfyniad hwnnw neu'n union ar ôl datgan canlyniad pleidlais drwy ddangos dwylo ar y penderfyniad hwnnw.\n(2) Caiff y canlynol alw am gynnal pôl—\n(a) cadeirydd y cyfarfod;\n(b) y cyfarwyddwyr;\n(c) dau neu ragor o bersonau sydd â hawl i bleidleisio ar y penderfyniad; neu\n(ch) person neu bersonau sy'n cynrychioli dim llai na degfed ran o gyfanswm hawliau pleidleisio'r holl aelodau sydd â hawl i bleidleisio ar y penderfyniad.\n(3) Ceir tynnu galwad am gynnal pôl yn ôl—\n(a) os nad yw'r pôl eto wedi ei gynnal, a\n(b) os yw cadeirydd y cyfarfod yn cydsynio i'w dynnu yn ôl.\n(4) Rhaid cynnal polau ar unwaith ac ym mha bynnag fodd a gyfarwyddir gan gadeirydd y cyfarfod.",
  "extent": "E+W",
  "status": null,
  "version": "current",
  "annotations": [
    {
      "type": "I",
      "label": "I1",
      "text": "Sch. 2 art. 35 in force at 30.11.2011, see reg. 1(2)"
    }
  ],
  "outstanding_effects": [],
  "provenance": {
    "source": "legislation.gov.uk",
    "source_url": "https://www.legislation.gov.uk/wsi/2011/2680/schedule/2/paragraph/35",
    "retrieved_at": "2026-10-28T23:48:59.854695+00:00"
  },
  "licence": "Open Government Licence v3.0",
  "licence_url": "https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/",
  "attribution": "Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives."
}