# The RTM Companies (Model Articles) (Wales) Regulations 2011, Paragraph 35: Pleidleisiau pôl

Extent: E+W

(1) Ceir galw am gynnal pôl ar benderfyniad—
(a) cyn cynnal y cyfarfod blynyddol lle y bwriedir pleidleisio ar y penderfyniad, neu
(b) mewn cyfarfod cyffredinol, naill ai cyn pleidleisio drwy ddangos dwylo ar y penderfyniad hwnnw neu'n union ar ôl datgan canlyniad pleidlais drwy ddangos dwylo ar y penderfyniad hwnnw.
(2) Caiff y canlynol alw am gynnal pôl—
(a) cadeirydd y cyfarfod;
(b) y cyfarwyddwyr;
(c) dau neu ragor o bersonau sydd â hawl i bleidleisio ar y penderfyniad; neu
(ch) person neu bersonau sy'n cynrychioli dim llai na degfed ran o gyfanswm hawliau pleidleisio'r holl aelodau sydd â hawl i bleidleisio ar y penderfyniad.
(3) Ceir tynnu galwad am gynnal pôl yn ôl—
(a) os nad yw'r pôl eto wedi ei gynnal, a
(b) os yw cadeirydd y cyfarfod yn cydsynio i'w dynnu yn ôl.
(4) Rhaid cynnal polau ar unwaith ac ym mha bynnag fodd a gyfarwyddir gan gadeirydd y cyfarfod.

---
Source: https://www.legislation.gov.uk/wsi/2011/2680/schedule/2/paragraph/35 (the official version)
Page: https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011/schedule-2/paragraph-35
Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives.

