{
  "url": "https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011/schedule-2/paragraph-36",
  "json_url": "https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011/schedule-2/paragraph-36.json",
  "legislation": "wsi/2011/2680",
  "legislation_title": "The RTM Companies (Model Articles) (Wales) Regulations 2011",
  "legislation_url": "https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011",
  "path": "schedule/2/paragraph/36",
  "kind": "paragraph",
  "number": "36",
  "heading": "Cynnwys hysbysiadau dirprwy",
  "text": "(1) Ni fydd penodiad dirprwy yn ddilys ac eithrio drwy hysbysiad ysgrifenedig (“hysbysiad dirprwy”) sydd—\n(a) yn datgan enw a chyfeiriad yr aelod sy'n penodi'r dirprwy;\n(b) yn enwi'r person a benodir i fod yn ddirprwy'r aelod hwnnw ac yn nodi'r cyfarfod cyffredinol y'i penodir mewn perthynas ag ef;\n(c) wedi ei lofnodi gan neu ar ran yr aelod sy'n penodi'r dirprwy, neu wedi ei dilysu ym mha bynnag fodd a benderfynir gan y cyfarwyddwyr; ac\n(ch) wedi ei draddodi i'r cwmni yn unol â'r erthyglau ac unrhyw gyfarwyddiadau a gynhwysir yn yr hysbysiad o'r cyfarfod cyffredinol y maent yn ymwneud ag ef.\n(2) Caiff y cwmni ei gwneud yn ofynnol bod hysbysiadau dirprwy yn cael eu traddodi mewn ffurf benodol, a phennu gwahanol ffurfiau at ddibenion gwahanol.\n(3) Caiff hysbysiadau dirprwy bennu sut y mae'r dirprwy a benodir odanynt i bleidleisio (neu fod y dirprwy i ymatal rhag pleidleisio) ar un neu ragor o benderfyniadau.\n(4) Oni fydd hysbysiad dirprwy yn dynodi'n wahanol, rhaid trin yr hysbysiad dirprwy fel pe bai—\n(a) yn caniatáu disgresiwn i'r person a benodir yn ddirprwy odano ynglŷn â sut i bleidleisio ar unrhyw benderfyniadau ategol neu weithdrefnol a osodir gerbron y cyfarfod, a\n(b) yn penodi'r person hwnnw yn ddirprwy mewn perthynas ag unrhyw ohiriad o'r cyfarfod cyffredinol y mae'r hysbysiad dirprwy yn ymwneud ag ef, yn ogystal â'r cyfarfod ei hunan.",
  "extent": "E+W",
  "status": null,
  "version": "current",
  "annotations": [
    {
      "type": "I",
      "label": "I1",
      "text": "Sch. 2 art. 36 in force at 30.11.2011, see reg. 1(2)"
    }
  ],
  "outstanding_effects": [],
  "provenance": {
    "source": "legislation.gov.uk",
    "source_url": "https://www.legislation.gov.uk/wsi/2011/2680/schedule/2/paragraph/36",
    "retrieved_at": "2026-10-28T23:48:59.854695+00:00"
  },
  "licence": "Open Government Licence v3.0",
  "licence_url": "https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/",
  "attribution": "Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives."
}