# The RTM Companies (Model Articles) (Wales) Regulations 2011, Paragraph 36: Cynnwys hysbysiadau dirprwy

Extent: E+W

(1) Ni fydd penodiad dirprwy yn ddilys ac eithrio drwy hysbysiad ysgrifenedig (“hysbysiad dirprwy”) sydd—
(a) yn datgan enw a chyfeiriad yr aelod sy'n penodi'r dirprwy;
(b) yn enwi'r person a benodir i fod yn ddirprwy'r aelod hwnnw ac yn nodi'r cyfarfod cyffredinol y'i penodir mewn perthynas ag ef;
(c) wedi ei lofnodi gan neu ar ran yr aelod sy'n penodi'r dirprwy, neu wedi ei dilysu ym mha bynnag fodd a benderfynir gan y cyfarwyddwyr; ac
(ch) wedi ei draddodi i'r cwmni yn unol â'r erthyglau ac unrhyw gyfarwyddiadau a gynhwysir yn yr hysbysiad o'r cyfarfod cyffredinol y maent yn ymwneud ag ef.
(2) Caiff y cwmni ei gwneud yn ofynnol bod hysbysiadau dirprwy yn cael eu traddodi mewn ffurf benodol, a phennu gwahanol ffurfiau at ddibenion gwahanol.
(3) Caiff hysbysiadau dirprwy bennu sut y mae'r dirprwy a benodir odanynt i bleidleisio (neu fod y dirprwy i ymatal rhag pleidleisio) ar un neu ragor o benderfyniadau.
(4) Oni fydd hysbysiad dirprwy yn dynodi'n wahanol, rhaid trin yr hysbysiad dirprwy fel pe bai—
(a) yn caniatáu disgresiwn i'r person a benodir yn ddirprwy odano ynglŷn â sut i bleidleisio ar unrhyw benderfyniadau ategol neu weithdrefnol a osodir gerbron y cyfarfod, a
(b) yn penodi'r person hwnnw yn ddirprwy mewn perthynas ag unrhyw ohiriad o'r cyfarfod cyffredinol y mae'r hysbysiad dirprwy yn ymwneud ag ef, yn ogystal â'r cyfarfod ei hunan.

---
Source: https://www.legislation.gov.uk/wsi/2011/2680/schedule/2/paragraph/36 (the official version)
Page: https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011/schedule-2/paragraph-36
Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives.

