{
  "url": "https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011/schedule-2/paragraph-38",
  "json_url": "https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011/schedule-2/paragraph-38.json",
  "legislation": "wsi/2011/2680",
  "legislation_title": "The RTM Companies (Model Articles) (Wales) Regulations 2011",
  "legislation_url": "https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011",
  "path": "schedule/2/paragraph/38",
  "kind": "paragraph",
  "number": "38",
  "heading": "Gwelliannau i benderfyniadau",
  "text": "(1) Ceir cynnig gwelliant i benderfyniad cyffredin sydd i'w gynnig mewn cyfarfod cyffredinol, drwy benderfyniad cyffredin—\n(a) os rhoddir hysbysiad o'r gwelliant arfaethedig i'r cwmni, mewn ysgrifen gan berson sydd â hawl i bleidleisio yn y cyfarfod cyffredinol y bwriedir cynnig y gwelliant ynddo, ddim llai na 48 awr cyn cynnal y cyfarfod (neu ba bynnag amser diweddarach a bennir gan gadeirydd y cyfarfod), a\n(b) os nad yw'r gwelliant arfaethedig, ym marn resymol cadeirydd y cyfarfod, yn newid cwmpas y penderfyniad yn sylweddol.\n(2) Ceir cynnig gwelliant i benderfyniad arbennig sydd i'w gynnig mewn cyfarfod cyffredinol, drwy benderfyniad cyffredin—\n(a) os yw cadeirydd y cyfarfod yn cynnig y gwelliant yn y cyfarfod cyffredinol y bwriedir cynnig y penderfyniad ynddo, a\n(b) os nad yw'r gwelliant yn mynd ymhellach nag sydd ei angen i gywiro gwall gramadegol, neu wall arall nad oes a wnelo ddim â sylwedd y penderfyniad.\n(3) Os digwydd i gadeirydd y cyfarfod, gan weithredu'n ddidwyll, benderfynu yn anghywir bod gwelliant i benderfyniad allan o drefn, nid yw camgymeriad y cadeirydd yn annilysu'r bleidlais ar y penderfyniad hwnnw.",
  "extent": "E+W",
  "status": null,
  "version": "current",
  "annotations": [
    {
      "type": "I",
      "label": "I1",
      "text": "Sch. 2 art. 38 in force at 30.11.2011, see reg. 1(2)"
    }
  ],
  "outstanding_effects": [],
  "provenance": {
    "source": "legislation.gov.uk",
    "source_url": "https://www.legislation.gov.uk/wsi/2011/2680/schedule/2/paragraph/38",
    "retrieved_at": "2026-10-28T23:48:59.854695+00:00"
  },
  "licence": "Open Government Licence v3.0",
  "licence_url": "https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/",
  "attribution": "Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives."
}