# The RTM Companies (Model Articles) (Wales) Regulations 2011, Paragraph 38: Gwelliannau i benderfyniadau

Extent: E+W

(1) Ceir cynnig gwelliant i benderfyniad cyffredin sydd i'w gynnig mewn cyfarfod cyffredinol, drwy benderfyniad cyffredin—
(a) os rhoddir hysbysiad o'r gwelliant arfaethedig i'r cwmni, mewn ysgrifen gan berson sydd â hawl i bleidleisio yn y cyfarfod cyffredinol y bwriedir cynnig y gwelliant ynddo, ddim llai na 48 awr cyn cynnal y cyfarfod (neu ba bynnag amser diweddarach a bennir gan gadeirydd y cyfarfod), a
(b) os nad yw'r gwelliant arfaethedig, ym marn resymol cadeirydd y cyfarfod, yn newid cwmpas y penderfyniad yn sylweddol.
(2) Ceir cynnig gwelliant i benderfyniad arbennig sydd i'w gynnig mewn cyfarfod cyffredinol, drwy benderfyniad cyffredin—
(a) os yw cadeirydd y cyfarfod yn cynnig y gwelliant yn y cyfarfod cyffredinol y bwriedir cynnig y penderfyniad ynddo, a
(b) os nad yw'r gwelliant yn mynd ymhellach nag sydd ei angen i gywiro gwall gramadegol, neu wall arall nad oes a wnelo ddim â sylwedd y penderfyniad.
(3) Os digwydd i gadeirydd y cyfarfod, gan weithredu'n ddidwyll, benderfynu yn anghywir bod gwelliant i benderfyniad allan o drefn, nid yw camgymeriad y cadeirydd yn annilysu'r bleidlais ar y penderfyniad hwnnw.

---
Source: https://www.legislation.gov.uk/wsi/2011/2680/schedule/2/paragraph/38 (the official version)
Page: https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011/schedule-2/paragraph-38
Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives.

