{
  "url": "https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011/schedule-2/paragraph-39",
  "json_url": "https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011/schedule-2/paragraph-39.json",
  "legislation": "wsi/2011/2680",
  "legislation_title": "The RTM Companies (Model Articles) (Wales) Regulations 2011",
  "legislation_url": "https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011",
  "path": "schedule/2/paragraph/39",
  "kind": "paragraph",
  "number": "39",
  "heading": "Y dulliau cyfathrebu sydd i'w defnyddio",
  "text": "(1) Yn ddarostyngedig i'r erthyglau, ceir anfon neu gyflenwi unrhyw beth a anfonir neu a gyflenwir gan y cwmni neu i'r cwmni o dan yr erthyglau, mewn unrhyw ffordd a ddarperir yn y Deddfau Cwmnïau ar gyfer dogfennau neu wybodaeth yr awdurdodir, neu y gwneir yn ofynnol, gan unrhyw ddarpariaeth o'r Deddfau hynny eu hanfon neu eu cyflenwi gan y cwmni neu i'r cwmni.\n(2) Yn ddarostyngedig i'r erthyglau, ceir anfon neu gyflenwi hefyd unrhyw hysbysiadau neu ddogfennau sydd i'w hanfon neu'u cyflenwi i gyfarwyddwr, mewn cysylltiad â gwneud penderfyniadau gan gyfarwyddwyr, yn y dull y mae'r cyfarwyddwr hwnnw am y tro wedi gofyn am i'r cyfryw hysbysiadau neu ddogfennau gael eu hanfon neu'u cyflenwi.\n(3) Caiff cyfarwyddwr gytuno gyda'r cwmni y ceir ystyried y bydd y cyfarwyddwr hwnnw wedi cael hysbysiadau neu ddogfennau a anfonir ato mewn ffordd benodol o fewn amser penodedig ar ôl eu hanfon, ac y bydd yr amser penodedig yn llai na 48 awr.",
  "extent": "E+W",
  "status": null,
  "version": "current",
  "annotations": [
    {
      "type": "I",
      "label": "I1",
      "text": "Sch. 2 art. 39 in force at 30.11.2011, see reg. 1(2)"
    }
  ],
  "outstanding_effects": [],
  "provenance": {
    "source": "legislation.gov.uk",
    "source_url": "https://www.legislation.gov.uk/wsi/2011/2680/schedule/2/paragraph/39",
    "retrieved_at": "2026-10-28T23:48:59.854695+00:00"
  },
  "licence": "Open Government Licence v3.0",
  "licence_url": "https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/",
  "attribution": "Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives."
}