# The RTM Companies (Model Articles) (Wales) Regulations 2011, Paragraph 40: Seliau cwmnïau

Extent: E+W

(1) O dan awdurdod y cyfarwyddwyr yn unig y ceir defnyddio unrhyw sêl gyffredin.
(2) Caiff y cyfarwyddwyr benderfynu drwy ba ddull ac ym mha ffurf y defnyddir unrhyw sêl gyffredin.
(3) Oni fydd y cyfarwyddwyr yn penderfynu fel arall, os oes gan y cwmni sêl gyffredin ac os gosodir y sêl honno ar ddogfen, rhaid i'r ddogfen gael ei llofnodi hefyd gan o leiaf un person awdurdodedig ym mhresenoldeb tyst sy'n ardystio'r llofnod.
(4) At ddibenion yr erthygl hon, person awdurdodedig yw—
(a) unrhyw gyfarwyddwr y cwmni;
(b) ysgrifennydd y cwmni (os oes un); neu
(c) unrhyw berson a awdurdodwyd gan y cyfarwyddwyr at y diben o lofnodi dogfennau y gosodwyd y sêl gyffredin arnynt.

---
Source: https://www.legislation.gov.uk/wsi/2011/2680/schedule/2/paragraph/40 (the official version)
Page: https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011/schedule-2/paragraph-40
Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives.

