{
  "url": "https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011/schedule-2/paragraph-41",
  "json_url": "https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011/schedule-2/paragraph-41.json",
  "legislation": "wsi/2011/2680",
  "legislation_title": "The RTM Companies (Model Articles) (Wales) Regulations 2011",
  "legislation_url": "https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011",
  "path": "schedule/2/paragraph/41",
  "kind": "paragraph",
  "number": "41",
  "heading": "Archwilio a chopïo cyfrifon a chofnodion eraill",
  "text": "Yn ychwanegol at unrhyw hawl a roddir drwy statud, a heb randdirymu unrhyw hawl o'r fath, mae gan unrhyw aelod yr hawl, ar ôl rhoi hysbysiad rhesymol, ar adeg ac mewn man sy'n gyfleus i'r cwmni, i archwilio unrhyw lyfr, cofnod, dogfen neu gofnod cyfrifyddu o eiddo'r cwmni, ac i gael copi o'r cyfryw ar ôl talu unrhyw ffi resymol am gopïo. Mae hawliau o'r fath yn ddarostyngedig i—\n(a) unrhyw benderfyniad gan y cwmni mewn cyfarfod cyffredinol;\n(b) yn achos unrhyw lyfr, cofnod, dogfen neu gofnod cyfrifyddu sydd, ym marn resymol y cyfarwyddwyr, yn cynnwys deunydd cyfrinachol y byddai ei ddatgelu yn groes i fuddiannau'r cwmni, hepgor neu dorri allan unrhyw ddeunydd cyfrinachol o'r fath (gan ddatgelu i'r aelod y ffaith bod hepgor neu dorri allan wedi digwydd); ac\n(c) unrhyw amodau rhesymol eraill a osodir gan y cyfarwyddwyr.",
  "extent": "E+W",
  "status": null,
  "version": "current",
  "annotations": [
    {
      "type": "I",
      "label": "I1",
      "text": "Sch. 2 art. 41 in force at 30.11.2011, see reg. 1(2)"
    }
  ],
  "outstanding_effects": [],
  "provenance": {
    "source": "legislation.gov.uk",
    "source_url": "https://www.legislation.gov.uk/wsi/2011/2680/schedule/2/paragraph/41",
    "retrieved_at": "2026-10-28T23:48:59.854695+00:00"
  },
  "licence": "Open Government Licence v3.0",
  "licence_url": "https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/",
  "attribution": "Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives."
}