# The RTM Companies (Model Articles) (Wales) Regulations 2011, Paragraph 41: Archwilio a chopïo cyfrifon a chofnodion eraill

Extent: E+W

Yn ychwanegol at unrhyw hawl a roddir drwy statud, a heb randdirymu unrhyw hawl o'r fath, mae gan unrhyw aelod yr hawl, ar ôl rhoi hysbysiad rhesymol, ar adeg ac mewn man sy'n gyfleus i'r cwmni, i archwilio unrhyw lyfr, cofnod, dogfen neu gofnod cyfrifyddu o eiddo'r cwmni, ac i gael copi o'r cyfryw ar ôl talu unrhyw ffi resymol am gopïo. Mae hawliau o'r fath yn ddarostyngedig i—
(a) unrhyw benderfyniad gan y cwmni mewn cyfarfod cyffredinol;
(b) yn achos unrhyw lyfr, cofnod, dogfen neu gofnod cyfrifyddu sydd, ym marn resymol y cyfarwyddwyr, yn cynnwys deunydd cyfrinachol y byddai ei ddatgelu yn groes i fuddiannau'r cwmni, hepgor neu dorri allan unrhyw ddeunydd cyfrinachol o'r fath (gan ddatgelu i'r aelod y ffaith bod hepgor neu dorri allan wedi digwydd); ac
(c) unrhyw amodau rhesymol eraill a osodir gan y cyfarwyddwyr.

---
Source: https://www.legislation.gov.uk/wsi/2011/2680/schedule/2/paragraph/41 (the official version)
Page: https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011/schedule-2/paragraph-41
Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives.

