{
  "url": "https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011/schedule-2/paragraph-43",
  "json_url": "https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011/schedule-2/paragraph-43.json",
  "legislation": "wsi/2011/2680",
  "legislation_title": "The RTM Companies (Model Articles) (Wales) Regulations 2011",
  "legislation_url": "https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011",
  "path": "schedule/2/paragraph/43",
  "kind": "paragraph",
  "number": "43",
  "heading": "Indemniad",
  "text": "(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ceir indemnio cyfarwyddwr perthnasol y cwmni neu gwmni cysylltiol, allan o asedau'r cwmni, rhag—\n(a) unrhyw atebolrwydd a dynnir gan y cyfarwyddwr hwnnw mewn cysylltiad ag unrhyw esgeulustod, diffyg, tor-dyletswydd neu dor-ymddiriedaeth mewn perthynas â'r cwmni neu gwmni cysylltiol,\n(b) unrhyw atebolrwydd a dynnir gan y cyfarwyddwr hwnnw mewn cysylltiad â gweithgareddau'r cwmni neu gwmni cysylltiol yn ei swyddogaeth fel ymddiriedolwr cynllun pensiwn galwedigaethol (fel y'i diffinnir yn adran 235(6) o Ddeddf Cwmnïau 2006),\n(c) unrhyw atebolrwydd arall a dynnir gan y cyfarwyddwr hwnnw fel swyddog y cwmni neu gwmni cysylltiol.\n(2) Nid yw'r erthygl hon yn awdurdodi unrhyw indemniad a waherddid neu a wneid yn ddi-rym gan unrhyw ddarpariaeth o'r Deddfau Cwmnïau neu gan unrhyw ddarpariaeth arall o'r gyfraith.\n(3) Yn yr erthygl hon—\n(a) mae cwmnïau yn gysylltiol os yw un yn is-gwmni i'r llall, neu'r ddau yn is-gwmnïau i'r un corff corfforaethol, a\n(b) ystyr “cyfarwyddwr perthnasol” yw unrhyw gyfarwyddwr neu gyn-gyfarwyddwr y cwmni neu gwmni cysylltiol.",
  "extent": "E+W",
  "status": null,
  "version": "current",
  "annotations": [
    {
      "type": "I",
      "label": "I1",
      "text": "Sch. 2 art. 43 in force at 30.11.2011, see reg. 1(2)"
    }
  ],
  "outstanding_effects": [],
  "provenance": {
    "source": "legislation.gov.uk",
    "source_url": "https://www.legislation.gov.uk/wsi/2011/2680/schedule/2/paragraph/43",
    "retrieved_at": "2026-10-28T23:48:59.854695+00:00"
  },
  "licence": "Open Government Licence v3.0",
  "licence_url": "https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/",
  "attribution": "Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives."
}