# The RTM Companies (Model Articles) (Wales) Regulations 2011, Paragraph 43: Indemniad

Extent: E+W

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ceir indemnio cyfarwyddwr perthnasol y cwmni neu gwmni cysylltiol, allan o asedau'r cwmni, rhag—
(a) unrhyw atebolrwydd a dynnir gan y cyfarwyddwr hwnnw mewn cysylltiad ag unrhyw esgeulustod, diffyg, tor-dyletswydd neu dor-ymddiriedaeth mewn perthynas â'r cwmni neu gwmni cysylltiol,
(b) unrhyw atebolrwydd a dynnir gan y cyfarwyddwr hwnnw mewn cysylltiad â gweithgareddau'r cwmni neu gwmni cysylltiol yn ei swyddogaeth fel ymddiriedolwr cynllun pensiwn galwedigaethol (fel y'i diffinnir yn adran 235(6) o Ddeddf Cwmnïau 2006),
(c) unrhyw atebolrwydd arall a dynnir gan y cyfarwyddwr hwnnw fel swyddog y cwmni neu gwmni cysylltiol.
(2) Nid yw'r erthygl hon yn awdurdodi unrhyw indemniad a waherddid neu a wneid yn ddi-rym gan unrhyw ddarpariaeth o'r Deddfau Cwmnïau neu gan unrhyw ddarpariaeth arall o'r gyfraith.
(3) Yn yr erthygl hon—
(a) mae cwmnïau yn gysylltiol os yw un yn is-gwmni i'r llall, neu'r ddau yn is-gwmnïau i'r un corff corfforaethol, a
(b) ystyr “cyfarwyddwr perthnasol” yw unrhyw gyfarwyddwr neu gyn-gyfarwyddwr y cwmni neu gwmni cysylltiol.

---
Source: https://www.legislation.gov.uk/wsi/2011/2680/schedule/2/paragraph/43 (the official version)
Page: https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011/schedule-2/paragraph-43
Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives.

