{
  "url": "https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011/schedule-2/paragraph-44",
  "json_url": "https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011/schedule-2/paragraph-44.json",
  "legislation": "wsi/2011/2680",
  "legislation_title": "The RTM Companies (Model Articles) (Wales) Regulations 2011",
  "legislation_url": "https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011",
  "path": "schedule/2/paragraph/44",
  "kind": "paragraph",
  "number": "44",
  "heading": "Yswiriant",
  "text": "(1) Caiff y cyfarwyddwyr benderfynu prynu a chynnal yswiriant, ar gost y cwmni, er budd unrhyw gyfarwyddwr perthnasol mewn perthynas ag unrhyw golled berthnasol.\n(2) Yn yr erthygl hon—\n(a) ystyr “cyfarwyddwr perthnasol” yw unrhyw gyfarwyddwr neu gyn-gyfarwyddwr y cwmni neu gwmni cysylltiol,\n(b) ystyr “colled berthnasol” yw unrhyw golled neu atebolrwydd a dynnwyd gan gyfarwyddwr perthnasol, neu y gallai cyfarwyddwr perthnasol ei thynnu, mewn cysylltiad â dyletswyddau neu bwerau'r cyfarwyddwr hwnnw mewn perthynas â'r cwmni, a chwmni cysylltiol neu unrhyw gronfa bensiwn neu gynllun cyfranddaliadau cyflogeion y cwmni neu gwmni cysylltiol, ac\n(c) mae cwmnïau yn gysylltiol os yw un yn is-gwmni i'r llall, neu'r ddau yn is-gwmnïau i'r un corff corfforaethol.",
  "extent": "E+W",
  "status": null,
  "version": "current",
  "annotations": [
    {
      "type": "I",
      "label": "I1",
      "text": "Sch. 2 art. 44 in force at 30.11.2011, see reg. 1(2)"
    }
  ],
  "outstanding_effects": [],
  "provenance": {
    "source": "legislation.gov.uk",
    "source_url": "https://www.legislation.gov.uk/wsi/2011/2680/schedule/2/paragraph/44",
    "retrieved_at": "2026-10-28T23:48:59.854695+00:00"
  },
  "licence": "Open Government Licence v3.0",
  "licence_url": "https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/",
  "attribution": "Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives."
}