# The RTM Companies (Model Articles) (Wales) Regulations 2011, Paragraph 44: Yswiriant

Extent: E+W

(1) Caiff y cyfarwyddwyr benderfynu prynu a chynnal yswiriant, ar gost y cwmni, er budd unrhyw gyfarwyddwr perthnasol mewn perthynas ag unrhyw golled berthnasol.
(2) Yn yr erthygl hon—
(a) ystyr “cyfarwyddwr perthnasol” yw unrhyw gyfarwyddwr neu gyn-gyfarwyddwr y cwmni neu gwmni cysylltiol,
(b) ystyr “colled berthnasol” yw unrhyw golled neu atebolrwydd a dynnwyd gan gyfarwyddwr perthnasol, neu y gallai cyfarwyddwr perthnasol ei thynnu, mewn cysylltiad â dyletswyddau neu bwerau'r cyfarwyddwr hwnnw mewn perthynas â'r cwmni, a chwmni cysylltiol neu unrhyw gronfa bensiwn neu gynllun cyfranddaliadau cyflogeion y cwmni neu gwmni cysylltiol, ac
(c) mae cwmnïau yn gysylltiol os yw un yn is-gwmni i'r llall, neu'r ddau yn is-gwmnïau i'r un corff corfforaethol.

---
Source: https://www.legislation.gov.uk/wsi/2011/2680/schedule/2/paragraph/44 (the official version)
Page: https://openlegislation.uk/rtm-companies-model-articles-wales-regulations-2011/schedule-2/paragraph-44
Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives.

