{
  "url": "https://openlegislation.uk/tobacco-and-vapes-act-2026/schedule-19/paragraph-2",
  "json_url": "https://openlegislation.uk/tobacco-and-vapes-act-2026/schedule-19/paragraph-2.json",
  "legislation": "ukpga/2026/18",
  "legislation_title": "Tobacco and Vapes Act 2026",
  "legislation_url": "https://openlegislation.uk/tobacco-and-vapes-act-2026",
  "path": "schedule/19/paragraph/2",
  "kind": "paragraph",
  "number": "2",
  "heading": null,
  "text": "In the Welsh language text, after section 17 insert—\n“Dehongli\nDehongli’r Bennod hon\n17A (1) Yn y Bennod hon—\nystyr “cartref gofal i oedolion” (“adult care home”) yw mangre lle y darperir gwasanaeth cartref gofal o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2) i bersonau sy’n 18 oed neu’n hŷn;\nmae “cerbyd” (“vehicle”) yn cynnwys trên, tram, cwch neu long, hofrenfad ac awyren;\nmae “cyfarpar maes chwarae” (“playground equipment”) yn cynnwys (er enghraifft) siglen, llithren, pwll tywod, neu ramp, ond nid yw’n cynnwys cyfarpar â modur (megis cyfarpar sy’n rhedeg ar fodur trydanol);\nmae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” gan adran 158(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32);\nmae i “disgybl cofrestredig” yr ystyr a roddir i “registered pupil” gan adran 434(5) o Ddeddf Addysg 1996 (p.56);\nystyr “gofal plant” (“childcare”) yw (yn ddarostyngedig i is-adran (2)) unrhyw ffurf ar ofal ar gyfer plentyn, ac eithrio gofal a ddarperir ar gyfer plentyn gan riant, perthynas neu riant maeth i’r plentyn, ac mae’n cynnwys—\n(a) addysg ar gyfer plentyn, a\n(b) unrhyw weithgaredd arall o dan oruchwyliaeth ar gyfer plentyn;\nystyr “hosbis i oedolion” (“adult hospice”) yw mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar gyfer darparu gofal lliniarol i bersonau sy’n 18 oed neu’n hŷn, sy’n dioddef o glefyd sy’n gwaethygu ac sydd yn ei gyfnodau olaf, gan neu ar ran sefydliad â’i brif swyddogaeth yw darparu gofal o’r fath;\nmae “mangre” (“premises”) yn cynnwys—\n(a) unrhyw fan;\n(b) strwythur symudol ac eithrio cerbyd;\n(c) stondin;\n(d) pabell;\n(e) gosodiad alltraeth o fewn yr ystyr a roddir i “offshore installation” yn Neddf Gweithiau Mwynau (Gosodiadau Alltraeth) 1971 (p.61) (gweler adran 12 o’r Ddeddf honno);\nystyr “perthynas” (“relative”), mewn perthynas â phlentyn, yw llys-riant, mam-gu/nain, tad-cu/taid, modryb, ewythr, brawd neu chwaer (gan gynnwys unrhyw berson sydd yn y berthynas honno yn rhinwedd priodas neu bartneriaeth sifil neu berthynas deuluol barhaus);\nystyr “plentyn” (“child”) yw person o dan 18 oed;\nmae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys unrhyw berson a chanddo gyfrifoldeb rhiant (o fewn yr ystyr a roddir i “parental responsibility” yn adran 3 o Ddeddf Plant 1989 (p.41)) dros blentyn;\nmae i “ysbyty” yr ystyr a roddir i “hospital” gan adran 206 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42);\nmae i “ysgol” yr ystyr a roddir i “school” gan adran 4 o Ddeddf Addysg 1996 (p.56);\nmae “ysmygu” (“smoking” a “smokes”) i gael ei ddarllen yn unol ag adran 4.\n(2) Nid yw cyfeiriadau yn y Bennod hon at “gofal plant” yn cynnwys—\n(a) addysg (neu unrhyw weithgaredd arall o dan oruchwyliaeth) a ddarperir gan ysgol yn ystod oriau ysgol ar gyfer disgybl cofrestredig, na\n(b) unrhyw ffurf ar ofal iechyd ar gyfer plentyn.\n(3) At ddibenion is-adran (1) mae person yn rhiant maeth mewn perthynas â phlentyn os yw’r person—\n(a) yn rhiant maeth awdurdod lleol (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 197 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4)), neu\n(b) yn maethu’r plentyn yn breifat.\n(4) Mae cyfeiriadau yn y Bennod hon at “annedd” yn cynnwys tir a fwynheir gyda mangre pan fo’r fangre ei hun yn annedd, oni bai bod y tir yn dir amaethyddol (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 246 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1)) sy’n fwy na 0.809 hectar.\n(5) Mae cyfeiriadau yn y Bennod hon, sut bynnag y’u mynegir, at fangreoedd neu gerbydau sy’n ddi-fwg (neu nad ydynt yn ddi-fwg) (neu sy’n cael eu trin fel pe baent yn ddi-fwg) yn gyfeiriadau at y mangreoedd hynny neu’r cerbydau hynny i’r graddau y maent yn ddi-fwg (neu nad ydynt yn ddi-fwg) (neu’n cael eu trin fel pe baent yn ddi-fwg) o dan y Bennod hon neu yn rhinwedd y Bennod hon.\n(6) Gall mangreoedd fod yn ddi-fwg yn rhinwedd mwy nag un adran yn y Bennod hon.\n(7) Caiff rheoliadau bennu at ddiben y Bennod hon ystyr “caeedig”, “sylweddol gaeedig” ac “nad yw’n gaeedig nac yn sylweddol gaeedig.”",
  "extent": "E+W+S+N.I.",
  "status": "prospective",
  "version": "current",
  "annotations": [
    {
      "type": "I",
      "label": "I1",
      "text": "Sch. 19 para. 2 not in force at Royal Assent, see s. 176(3)(c)"
    }
  ],
  "outstanding_effects": [],
  "provenance": {
    "source": "legislation.gov.uk",
    "source_url": "https://www.legislation.gov.uk/ukpga/2026/18/schedule/19/paragraph/2",
    "retrieved_at": "2026-10-31T10:30:55.816893+00:00"
  },
  "licence": "Open Government Licence v3.0",
  "licence_url": "https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/",
  "attribution": "Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives."
}