{
  "url": "https://openlegislation.uk/tobacco-and-vapes-act-2026/schedule-19/paragraph-21",
  "json_url": "https://openlegislation.uk/tobacco-and-vapes-act-2026/schedule-19/paragraph-21.json",
  "legislation": "ukpga/2026/18",
  "legislation_title": "Tobacco and Vapes Act 2026",
  "legislation_url": "https://openlegislation.uk/tobacco-and-vapes-act-2026",
  "path": "schedule/19/paragraph/21",
  "kind": "paragraph",
  "number": "21",
  "heading": null,
  "text": "In the Welsh language text, for section 28 substitute—\n“Dehongli’r Bennod hon\n28 (1) Yn y Bennod hon—\nmae “awdurdod gorfodi” (“enforcement authority”) i gael ei ddehongli yn unol ag adran 18;\nmae “cerbyd” (“vehicle”) yn cynnwys trên, tram, cwch neu long, hofrenfad ac awyren;\nmae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” gan adran 158(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32);\nmae “mangre” (“premises”) yn cynnwys—\n(a) unrhyw fan;\n(b) strwythur symudol ac eithrio cerbyd;\n(c) stondin;\n(d) pabell;\n(e) gosodiad alltraeth o fewn yr ystyr a roddir i “offshore installation” yn Neddf Gweithiau Mwynau (Gosodiadau Alltraeth) 1971 (p.61) (gweler adran 12 o’r Ddeddf honno);\nmae i “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yr ystyr a roddir gan adran 18(5).\n(2) Mae cyfeiriadau yn y Bennod hon at “annedd” yn cynnwys tir a fwynheir gyda mangre pan fo’r fangre ei hun yn annedd, oni bai bod y tir yn dir amaethyddol (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 246 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1)) sy’n fwy na 0.809 hectar.”",
  "extent": "E+W+S+N.I.",
  "status": "prospective",
  "version": "current",
  "annotations": [
    {
      "type": "I",
      "label": "I1",
      "text": "Sch. 19 para. 21 not in force at Royal Assent, see s. 176(3)(c)"
    }
  ],
  "outstanding_effects": [],
  "provenance": {
    "source": "legislation.gov.uk",
    "source_url": "https://www.legislation.gov.uk/ukpga/2026/18/schedule/19/paragraph/21",
    "retrieved_at": "2026-10-31T10:30:55.816893+00:00"
  },
  "licence": "Open Government Licence v3.0",
  "licence_url": "https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/",
  "attribution": "Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives."
}