# Tobacco and Vapes Act 2026, Paragraph 12

Extent: E+W
Status: prospective

For the Welsh language text of section 55 substitute—
“Dehongli’r Bennod hon
55 Yn y Bennod hon—
ystyr “cyflogaeth” (“employment”) yw unrhyw gyflogaeth, pa un ai â thâl neu’n ddi-dâl, ac mae’n cynnwys—
(a) gwaith o dan gontract am wasanaethau neu fel deiliad swydd, a
(b) profiad gwaith a ddarperir yn unol â chwrs neu raglen hyfforddi neu yng nghwrs hyfforddiant ar gyfer cyflogaeth;
mae i “cynnyrch fepio” yr ystyr a roddir i “vaping product” gan adran 50 o Ddeddf Tybaco a Fêps 2026;
mae i “cynnyrch nicotin” yr ystyr a roddir i “nicotine product” gan adran 50 o Ddeddf Tybaco a Fêps 2026;
mae i “cynnyrch smygu llysieuol” yr ystyr a roddir i “herbal smoking product” gan adran 50 o Ddeddf Tybaco a Fêps 2026;
mae i “cynnyrch tybaco” yr ystyr a roddir i “tobacco product” gan adran 50 o Ddeddf Tybaco a Fêps 2026;
mae “papurau sigaréts” (“cigarette papers”) yn cynnwys unrhyw beth y bwriedir iddo gael ei ddefnyddio ar gyfer cau am gynhyrchion tybaco neu gynhyrchion smygu llysieuol at y diben o alluogi iddynt gael eu smygu.”

---
Source: https://www.legislation.gov.uk/ukpga/2026/18/schedule/5/paragraph/12 (the official version)
Page: https://openlegislation.uk/tobacco-and-vapes-act-2026/schedule-5/paragraph-12
Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives.

