{
  "url": "https://openlegislation.uk/tobacco-and-vapes-act-2026/schedule-5/paragraph-4",
  "json_url": "https://openlegislation.uk/tobacco-and-vapes-act-2026/schedule-5/paragraph-4.json",
  "legislation": "ukpga/2026/18",
  "legislation_title": "Tobacco and Vapes Act 2026",
  "legislation_url": "https://openlegislation.uk/tobacco-and-vapes-act-2026",
  "path": "schedule/5/paragraph/4",
  "kind": "paragraph",
  "number": "4",
  "heading": null,
  "text": "In the Welsh language text, before section 52 insert—\n“Y drosedd o roi tybaco etc. i bobl a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009\n51A (1) Mae person (“A”) yn cyflawni trosedd—\n(a) os yw A, mewn cysylltiad â threfniadau o dan adran 53, yn rhoi yng Nghymru gynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol neu bapurau sigaréts i berson a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009 (“B”),\n(b) os nad yw’r rhoi yn digwydd naill ai—\n(i) yng nghwrs crefft, proffesiwn, busnes neu gyflogaeth B, neu\n(ii) yng ngŵydd person arall a anwyd cyn 1 Ionawr 2009,\n(c) os yw A, ar adeg y rhoi, yn gwybod bod cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol neu bapurau sigaréts (pa un bynnag sy’n gymwys) yn cael eu rhoi, a\n(d) pan roddir y cynhyrchion tybaco, y cynhyrchion smygu llysieuol neu’r papurau sigaréts, os nad ydynt mewn pecyn—\n(i) sydd wedi ei selio, a\n(ii) sydd â chyfeiriad arno, at ddiben ei ddanfon i’r cyfeiriad hwnnw yn unol â threfniadau o fewn adran 53.\n(2) Ystyr “pecyn” yn isadran (1)(d) yw pecyn yn ychwanegol at y pecyn gwreiddiol y mae’r cynhyrchion tybaco, y cynhyrchion smygu llysieuol neu’r papurau sigaréts wedi eu cyflenwi ynddo at ddiben eu gwerthu drwy fanwerthu gan eu gwneuthurwr neu eu mewnforiwr.\n(3) Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.\n(4) Pan fo person (“y cyhuddedig”) wedi ei gyhuddo o drosedd o dan yr adran hon oherwydd ymddygiad y cyhuddedig ei hun (ac eithrio yn rhinwedd adran 44 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p.43) (helpwyr ac anogwyr)) mae’n amddiffyniad i’r cyhuddedig ddangos—\n(a) bod y cyhuddedig yn credu, pan ddigwyddodd y rhoi, fod y person y rhoddwyd y cynhyrchion tybaco, y cynhyrchion smygu llysieuol neu’r papurau sigaréts iddo, neu berson arall a oedd yn bresennol ar adeg y rhoi, wedi cael ei eni cyn 1 Ionawr 2009, a\n(b) naill ai—\n(i) bod y cyhuddedig wedi cymryd camau rhesymol i gadarnhau oedran y person hwnnw, neu\n(ii) na allai neb fod wedi amau’n rhesymol o olwg y person hwnnw fod y person wedi cael ei eni ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009.\n(5) At ddibenion is-adran (4)(b), mae’r cyhuddedig i gael ei drin fel pe bai wedi cymryd camau rhesymol i gadarnhau oedran person—\n(a) os gofynnodd y cyhuddedig i’r person hwnnw am dystiolaeth o oedran y person hwnnw, a\n(b) pe bai’r dystiolaeth wedi argyhoeddi person rhesymol.\n(6) Pan fo person wedi ei gyhuddo o drosedd o dan yr adran hon oherwydd gweithred neu ddiffyg person arall, neu yn rhinwedd cymhwyso adran 44 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p.43) (helpwyr ac anogwyr), mae’n amddiffyniad dangos i’r person gymryd rhagofalon rhesymol ac arfer diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni’r drosedd.”",
  "extent": "E+W",
  "status": "prospective",
  "version": "current",
  "annotations": [
    {
      "type": "I",
      "label": "I1",
      "text": "Sch. 5 para. 4 not in force at Royal Assent, see s. 175(5)"
    }
  ],
  "outstanding_effects": [],
  "provenance": {
    "source": "legislation.gov.uk",
    "source_url": "https://www.legislation.gov.uk/ukpga/2026/18/schedule/5/paragraph/4",
    "retrieved_at": "2026-10-31T10:30:55.816893+00:00"
  },
  "licence": "Open Government Licence v3.0",
  "licence_url": "https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/",
  "attribution": "Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives."
}