# Tobacco and Vapes Act 2026, Paragraph 4

Extent: E+W
Status: prospective

In the Welsh language text, before section 52 insert—
“Y drosedd o roi tybaco etc. i bobl a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009
51A (1) Mae person (“A”) yn cyflawni trosedd—
(a) os yw A, mewn cysylltiad â threfniadau o dan adran 53, yn rhoi yng Nghymru gynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol neu bapurau sigaréts i berson a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009 (“B”),
(b) os nad yw’r rhoi yn digwydd naill ai—
(i) yng nghwrs crefft, proffesiwn, busnes neu gyflogaeth B, neu
(ii) yng ngŵydd person arall a anwyd cyn 1 Ionawr 2009,
(c) os yw A, ar adeg y rhoi, yn gwybod bod cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol neu bapurau sigaréts (pa un bynnag sy’n gymwys) yn cael eu rhoi, a
(d) pan roddir y cynhyrchion tybaco, y cynhyrchion smygu llysieuol neu’r papurau sigaréts, os nad ydynt mewn pecyn—
(i) sydd wedi ei selio, a
(ii) sydd â chyfeiriad arno, at ddiben ei ddanfon i’r cyfeiriad hwnnw yn unol â threfniadau o fewn adran 53.
(2) Ystyr “pecyn” yn isadran (1)(d) yw pecyn yn ychwanegol at y pecyn gwreiddiol y mae’r cynhyrchion tybaco, y cynhyrchion smygu llysieuol neu’r papurau sigaréts wedi eu cyflenwi ynddo at ddiben eu gwerthu drwy fanwerthu gan eu gwneuthurwr neu eu mewnforiwr.
(3) Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.
(4) Pan fo person (“y cyhuddedig”) wedi ei gyhuddo o drosedd o dan yr adran hon oherwydd ymddygiad y cyhuddedig ei hun (ac eithrio yn rhinwedd adran 44 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p.43) (helpwyr ac anogwyr)) mae’n amddiffyniad i’r cyhuddedig ddangos—
(a) bod y cyhuddedig yn credu, pan ddigwyddodd y rhoi, fod y person y rhoddwyd y cynhyrchion tybaco, y cynhyrchion smygu llysieuol neu’r papurau sigaréts iddo, neu berson arall a oedd yn bresennol ar adeg y rhoi, wedi cael ei eni cyn 1 Ionawr 2009, a
(b) naill ai—
(i) bod y cyhuddedig wedi cymryd camau rhesymol i gadarnhau oedran y person hwnnw, neu
(ii) na allai neb fod wedi amau’n rhesymol o olwg y person hwnnw fod y person wedi cael ei eni ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009.
(5) At ddibenion is-adran (4)(b), mae’r cyhuddedig i gael ei drin fel pe bai wedi cymryd camau rhesymol i gadarnhau oedran person—
(a) os gofynnodd y cyhuddedig i’r person hwnnw am dystiolaeth o oedran y person hwnnw, a
(b) pe bai’r dystiolaeth wedi argyhoeddi person rhesymol.
(6) Pan fo person wedi ei gyhuddo o drosedd o dan yr adran hon oherwydd gweithred neu ddiffyg person arall, neu yn rhinwedd cymhwyso adran 44 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p.43) (helpwyr ac anogwyr), mae’n amddiffyniad dangos i’r person gymryd rhagofalon rhesymol ac arfer diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni’r drosedd.”

---
Source: https://www.legislation.gov.uk/ukpga/2026/18/schedule/5/paragraph/4 (the official version)
Page: https://openlegislation.uk/tobacco-and-vapes-act-2026/schedule-5/paragraph-4
Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives.

