OpenLegislation

Part II HYSBYSIAD I'W ANFON AT Y CEISYDD WRTH WRTHOD CANIATÅD ADEILAD RHESTREDIG NEU GANIATÅD ARDAL GADWRAETH, NEU WRTH ROI CANIATÅD YN DDAROSTYNGEDIG I AMODAU (I'W HATEGU AR HYSBYSIADAU PENDERFYNU)

Original text. Later amendments are not shown.

(1)

Os tramgwyddir y ceisydd gan benderfyniad yr awdurdod cynllunio lleol i wrthod caniatâd adeilad rhestredig neu ganiatâd ardal gadwraeth am y gwaith arfaethedig, neu i roi caniatâd yn ddarostyngedig i amodau, gall apelio at Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn unol â pharagraff 8 Atodiad 11 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1971 o fewn chwe mis ar ôl cael yr hysbysiad hwn. (Rhaid gwneud apelau ar ffurflen y gellir ei chael oddi wrth y Swyddfa Gymreig). Mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol bŵer i ganiatáu cyfnod hwy ar gyfer rhoi hysbysiad apêl ond fel arfer ni fydd yn barod i ymarfer y pŵer hwn oni bai bod amgylchiadau arbennig sy'n esgusodi'r oedi wrth roi hysbysiad apêl.

(2)

Os gwrthodir caniatâd adeilad rhestredig neu ganiatâd ardal gadwraeth, neu os rhoddir hwy yn ddarostynedig i amodau, naill ai gan yr awdurdod cynllunio lleol neu gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ac os yw perchennog y tir yn honni nad oes modd yn awr ddefnyddio'r tir er budd rhesymol yn ei gyflwr presennol ac na ellir peri y gellir ei ddefnyddio er budd rhesymol trwy gyflawni unrhyw weithiau sydd wedi'u caniatáu neu y byddid wedi'u caniatáu, gall gyflwyno i gyngor y dosbarth y lleolir y tir ynddo hysbysiad prynu sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r cyngor hwnnw brynu ei ddiddordeb yn y tir yn unol â darpariaethau adran 190 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1971.

(3)

O dan rai amgylchiadau gellir gwneud cais yn erbyn yr awdurdod cynllunio lleol am iawndal lle gwrthodir caniatâd neu lle y'i rhoddir yn ddarostyngedig i amodau gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar apêl neu pan gyfeirir cais ato. Nodir yr amgylchiadau lle mae iawndal o'r fath yn daladwy yn adran 171 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1971.