Part III HYSBYSIAD I'W ANFON AT Y CEISYDD WRTH WRTHOD AMRYWIO NEU DDILEU AMODAU SYDD YNGHLWM WRTH GANIATÅD ADEILAD RHESTREDIG NEU GANIATÅD ARDAL GADWRAETH, NEU WRTH YCHWANEGU AMODAU NEWYDD A DDAW YN SGI*L AMRYWIO NEU DDILEU
Os tramgwyddir y ceisydd gan benderfyniad yr awdurdod cynllunio lleol—
(a)
i wrthod amrywio neu ddileu'r amodau sydd ynghlwm wrth ganiatâd adeilad rhestredig neu ganiatâd ardal gadwraeth; neu
(b)
i ychwanegu amodau newydd a ddaw yn sgíl unrhyw amrywio neu ddileu o'r fath, gall apelio at Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn unol â pharagraff 8 Atodiad 11 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1971 o fewn chwe mis ar ôl cael yr hysbysiad hwn. (Rhaid gwneud apelau ar ffurflen y gellir ei chael oddi wrth y Swyddfa Gymreig). Mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol bŵer i ganiatáu cyfnod hwy ar gyfer rhoi hysbysiad apêl ond fel rheol ni fydd yn barod i ymarfer y pŵer hwn oni bai bod amgylchiadau arbennig sy'n esgusodi'r oedi wrth roi hysbysiad apêl.