OpenLegislation

Paragraph 43

Original text. Later amendments are not shown.

Yn Atodlen 1 i Reoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 2004f1(tramgwyddau penodedig, personau perthnasol a restri perthnasol)—

(a)

ar ôl paragraff 12 mewnosoder—

“12A.

Tramgwydd mewn perthynas â gwasanaeth cartref gofal, gofal plant neu ofal dydd i blant, o dan neu yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau canlynol Deddf Diwygio’r Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010f2—

(a)

adran 78 (tramgwyddau o dan reoliadau);

(b)

adran 80 (tramgwyddau ynglŷn â chofrestru); neu

(c)

adran 81 (datganiadau ffug mewn ceisiadau).”;

(b)

ar ôl paragraff 28(dd)—

(i)

hepgorer “neu” a

(ii)

mewnosoder—

“(dda)

Deddf Diwygio’r Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010; neu”;

(c)

ar ôl paragraff 30 mewnosoder—

“30A.

Gwrthodwyd i’r person, ar unrhyw adeg gofrestru, fel darparydd asiantaeth gofal plant o dan adran 59 o Ddeddf Diwygio’r Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010 neu ddiddymwyd ei gofrestriad o dan adran 64 neu 65 o’r Ddeddf honno.”.

Annotations

Footnotes

f1

O.S. 2004/2695 (Cy.235), y mae iddi ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r Atodlen hon.

f2

2010 dsa 8.