Part 1 New Part 2 of Schedule 1 (Welsh versions of forms of words)
“PART 2
Welsh version of questions to be put to voters
Person sy’n gwneud cais am bapur pleidleisio Cwestiynau 1 Person sy’n gwneud cais fel etholwr (za) Beth yw’ch enw? (zb) Beth yw’ch cyfeiriad? (a) Ai chi yw’r person sydd wedi’i gofrestru ar y gofrestr etholwyr fel a ganlyn (rhaid i chi ddarllen yn uchel y cofnod cyfan o’r gofrestr)? [R] (b) A ydych eisoes wedi pleidleisio yn yr etholiad hwn ar gyfer comisiynydd yr heddlu a throseddu, naill ai yma neu rywle arall, ac eithrio fel dirprwy i rywun arall? [R] 2 Person sy’n gwneud cais fel dirprwy (za) Beth yw’ch enw? (zb) Beth yw’ch cyfeiriad? (a) Ai chi yw’r person y mae ei enw yn ymddangos fel A B ar y rhestr dirprwyon ar gyfer yr etholiad hwn ar gyfer comisiynydd yr heddlu a throseddu fel y person sydd â hawl i bleidleisio fel dirprwy ar ran C D? [R] (b) A ydych eisoes wedi pleidleisio yn yr etholiad hwn ar gyfer comisiynydd yr heddlu a throseddu, naill ai yma neu rywle arall, fel y person sydd â hawl i bleidleisio fel dirprwy ar ran C D? [R] (c) Ydych chi eisoes wedi pleidleisio fel dirprwy yn yr etholiad hwn neu mewn unrhyw etholiad arall ar gyfer comisiynwyr yr heddlu a throseddu gyda’r diwrnod pleidleisio ar ei gyfer heddiw, p’un a wnaethoch hynny yma neu rywle arall yn ardal yr heddlu hwn neu yn ardal unrhyw heddlu arall, ar ran pedwar etholwr neu fwy? [R] (d) Os bydd yr unigolyn yn rhoi ateb negyddol i gwestiwn (c): “Ydych chi eisoes wedi pleidleisio fel dirprwy yn yr etholiad hwn neu mewn unrhyw etholiad arall ar gyfer comisiynwyr yr heddlu a throseddu gyda’r diwrnod pleidleisio ar ei gyfer heddiw, p’un a wnaethoch hynny yma neu rywle arall yn ardal yr heddlu hwn neu yn ardal unrhyw heddlu arall, ar ran ddau etholwr neu fwy?” [R] (e) Os bydd yr unigolyn yn rhoi ateb cadarnhaol i gwestiwn (d): “A oedd dau neu fwy o’r etholwyr y gwnaethoch bleidleisio ar eu rhan yn yr etholiad hwn, neu mewn unrhyw etholiad arall ar gyfer comisiynwyr yr heddlu a throseddu, wedi’u cofrestru mewn cofrestr o etholwyr ac eithrio yn unol â datganiad gwasanaeth?” [R] (f) Os bydd yr unigolyn yn rhoi ateb cadarnhaol i gwestiwn (e): “A yw’r etholwr (etholwyr) rydych yn pleidleisio ar ei ran (eu rhan) heddiw wedi’i gofrestru (wedi’u cofrestru) mewn cofrestr o etholwyr ac eithrio yn unol â datganiad gwasanaeth?” [R] 3 Person sy’n gwneud cais fel dirprwy ar gyfer etholwr â chofnod dienw (yn hytrach na’r cwestiynau yng nghofnod 2) (za) Beth yw’ch enw? (zb) Beth yw’ch cyfeiriad? (a) Ai chi yw’r person y mae hawl ganddo bleidleisio fel dirprwy ar ran yr etholwr sydd â’r rhif (darllenwch yn uchel rif yr etholwr o’r gofrestr) ar y gofrestr etholwyr? [R] (b) A ydych eisoes wedi pleidleisio yn yr etholiad hwn ar gyfer comisiynydd yr heddlu a throseddu, yma neu rywle arall, fel dirprwy ar ran yr etholwr sydd â’r rhif (darllenwch yn uchel rif yr etholwr o’r gofrestr) ar y gofrestr etholwyr? [R] (c) Ydych chi eisoes wedi pleidleisio fel dirprwy yn yr etholiad hwn neu mewn unrhyw etholiad arall ar gyfer comisiynwyr yr heddlu a throseddu gyda’r diwrnod pleidleisio ar ei gyfer heddiw, p’un a wnaethoch hynny yma neu rywle arall yn ardal yr heddlu hwn neu yn ardal unrhyw heddlu arall, ar ran pedwar etholwr neu fwy? [R] (d) Os bydd yr unigolyn yn rhoi ateb negyddol i gwestiwn (c): “Ydych chi eisoes wedi pleidleisio fel dirprwy yn yr etholiad hwn neu mewn unrhyw etholiad arall ar gyfer comisiynwyr yr heddlu a throseddu gyda’r diwrnod pleidleisio ar ei gyfer heddiw, p’un a wnaethoch hynny yma neu rywle arall yn ardal yr heddlu hwn neu yn ardal unrhyw heddlu arall, ar ran ddau etholwr neu fwy?” [R] (e) Os bydd yr unigolyn yn rhoi ateb cadarnhaol i gwestiwn (d): “A oedd dau neu fwy o’r etholwyr y gwnaethoch bleidleisio ar eu rhan yn yr etholiad hwn, neu mewn unrhyw etholiad arall ar gyfer comisiynwyr yr heddlu a throseddu, wedi’u cofrestru mewn cofrestr o etholwyr ac eithrio yn unol â datganiad gwasanaeth?” [R] (f) Os bydd yr unigolyn yn rhoi ateb cadarnhaol i gwestiwn (e): “A yw’r etholwr (etholwyr) rydych yn pleidleisio ar ei ran (eu rhan) heddiw wedi’i gofrestru (wedi’u cofrestru) mewn cofrestr o etholwyr ac eithrio yn unol â datganiad gwasanaeth?” [R] 5 Person sy’n gwneud cais fel etholwr y mae cofnod ganddo ar y rhestr pleidleiswyr post (za) Beth yw’ch enw? (zb) Beth yw’ch cyfeiriad? (a) A wnaethoch gais i bleidleisio drwy’r post? (b) Pam nad ydych wedi pleidleisio drwy’r post? 6 Person sy’n gwneud cais fel dirprwy y mae cofnod ganddo ar y rhestr dirprwyon sy’n pleidleisio drwy’r post (za) Beth yw’ch enw? (zb) Beth yw’ch cyfeiriad? (a) A wnaethoch gais i bleidleisio drwy’r post fel dirprwy? (b) Pam nad ydych wedi pleidleisio drwy’r post fel dirprwy? ”