OpenLegislation

Paragraph 4

Original text. Later amendments are not shown.

O ran unrhyw borfeydd garw lled-naturiol neu lain arfordirol amgaeëdig sy'n destun cytundeb a lle mae grug yn 25 y cant o leiaf ond heb rod yn fwy na 50 y cant o'r gorchudd llystyfiant—

(1)

rhaid i'r ffermwr bori gyda gwartheg neu ddefaid yn ôl graddfa stocio flynyddol gyfartalog nad yw'n fwy na 0.15 uned da byw yr hectar;

(2)

rhaid i'r ffermwr, rhwng 1 Medi mewn unrhyw flwyddyn a 31 Mawrth yn y flwyddyn ganlynol, bori gyda gwartheg neu ddefaid yn ôl graddfa stocio flynyddol gyfartalog nad yw'n fwy na 0.10 uned da byw yr hectar.