OpenLegislation

Schedule 2 FORMS OF WORDS IN WELSH FOR ADDITIONAL PROVISIONS AND DEFINITIONS SPECIFIED IN ARTICLE 2(1) OF AND SCHEDULE 2 TO THE ENVIRONMENTALLY SENSITIVE AREAS (YNYS MÔN) DESIGNATION ORDER 1993

Original text. Later amendments are not shown.

(i)

ystyr “cytundeb” yw cytundeb o dan adran 18(3) Deddf Amaethyddiaeth 1986 mewn perthynas â thir amaethyddol yn yr ardal a ddynodwyd gan erthygl 3 Gorchymyn Dynodi Ardaloedd Amgylchedd Arbennig (Ynys Môn) 1993;

(ii)

ystyr “coetir llydanddail” yw tir a ddefnyddir at goetir llydanddail lle mae'r defnydd hwnnw yn atodol i amaethu'r tir at ddibenion amaethyddol eraill;

(iii)

ystyr “llain arfordirol” yw tir ar frig clogwyni neu lethrau arfordirol sy'n rhostir, lle mae'r llystyfiant yn cynnwys yn bennaf cor-brysgwydd, gan gynnwys ericoidau a rhywogaethau arforol, neu dir glas sy'n cynnwys rhywogaethau arforol o laswellt;

(iv)

ystyr “pentir cadwraeth” yw llain o dir âr sy'n fan rhwng llinell sy'n rhedeg yn gyfochrog â ffin cae ar bellter o 2 fetr o'r ffin honno a llinell arall sy'n rhedeg yn gyfochrog â'r ffin honno ar bellter o 6 metr o leiaf o'r ffin honno sef man y caniateir i bryfed buddiol a chwyn llydanddail oroesi arno, drwy ddefnyddio plaleiddiaid yn ddethol;

(v)

ystyr “tir glas amgaeëdig sydd wedi'i wella'n rhannol” yw tir glas amgaeëdig sydd heb ei aredig, ei wastatáu neu ei ail-hadu'n rheolaidd ond sydd wedi'i newid drwy daenu llysleiddiaid, gwrtaith anorganig neu organig neu drwy bori dwys neu draenio;

(vi)

ystyr “tir glas amgaeëdig sydd heb ei wella” yw tir glas amgaeëdig sydd heb ei aredig, ei wastatáu, ei draenio neu ei ail-hadu yn rheolaidd, neu ei drin gyda gwrtaith anorganig neu organig, calch, llysleiddiaid neu blaleiddiaid;

(vii)

ystyr “ffermwr” yw person sydd â diddordeb mewn tir amaethyddol yn yr ardal a ddynodwyd gan erthygl 3 Gorchymyn Dynodi Ardaloedd Amgylchedd Arbennig (Ynys Môn) 1993 ac sydd hefyd wedi gwneud cytundeb â'r Ysgrifennydd Gwladol;

(viii)

ystyr “grug” yw llystyfiant sy'n cynnwys Calluna vulgaris, Erica tetralix neu Erica cinerea;

(ix)

ystyr “uned da byw” yw—

(a)

1 anifail o deulu'r ych sy'n fwy na dwy flwydd oed, neu

(b)

1.66 anifail o deulu'r ych o chwe mis oed hyd at ddwy fiwydd oed yn gynwysedig, neu

(c)

6.66 o ddefaid;

(x)

ystyr “tir pori garw lled-naturiol” yw tir lle mae'r llystyfiant yn cynnwys yn bennaf y gawnen benddu (Agrostis), peisgwellt (Festuca), rhedyn (Pteridium aquilinum), glaswellt y gweunydd (Molinia caerulea) cawnen ddu (Nardus stricta), grug (Calluna vulgaris, Erica tetralix neu Erica cinerea), llus (Vaccinium myrtillus), plu'r gweunydd (Eriophorum) neu glwbfrwynen y mawn (Trichophorum cespitosum);

(xi)

ystyr “tir gwlyb” yw tir gyda lefel trwythiad ar wyneb y pridd neu ychydig odano drwy'r rhan fwyaf o'r flwyddyn ac mae'n cynnwys tir pori gwlyb, gwelyau cawn, ffen-gorsydd, ffeniau helyg ac, ac eithrio yn gymaint ag y mae'r tir hwnnw yn cyffinio â thir glas amgaeëdig sydd heb ei wella, tir glas amgaeëdig sydd wedi'i wella'n rhannol, gweirglodd neu borfeydd garw lled-naturiol, mae hefyd yn cynnwys llain o dir o leiaf 10 metr o led sy'n gyfagos i'r tir hwnnw.

  1. 1Paragraph 1
  2. 2Paragraph 2
  3. 3Paragraph 3
  4. 4Paragraph 4
  5. 5Paragraph 5
  6. 6Paragraph 6
  7. 7Paragraph 7
  8. 8Paragraph 8