OpenLegislation

Paragraph 1

Original text. Later amendments are not shown.

O ran unrhyw dir sy'n destan cytundeb ac sy'n dir gwlyb:—

(1)

rhaid i'r ffermwr, cyn pen chwe mis ar ôl dechrau'r cytundeb, cytuno yn ysgrifenedig gyda'r Ysgrifennydd Gwladol—

(a)

ar raglen reoli ar gyfer y tir gwlyb, ac

(b)

ar raddfa amser ar gyfer gweithredu'r rhaglen reoli honno;

(2)

rhaid i'r ffermwr, cyn pen pymtheng mis ar ôl dechrau'r cytundeb, ddechrau gwaith ar y rhaglen reoli ar gyfer y tir gwlyb y cytunwyd arni gyda'r Ysgrifennydd Gwladol;

(3)

rhaid i'r ffermwr beidio â gwneud unrhyw waith i gynnal systemau traenio presennol.