Explanatory note
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu fersiynau Cymraeg i ffurflenni hysbysiad y Rheoliadau Tai (Gweithdrefn Oediad Hawl i Brynu) (Ffurflenni Penodedig) 1989, fel y'u diwygiwyd gan y Rheoliadau Tai (Gweithdrefn Ordiad Hawl i Brynu) (Ffurflenni Penodedig) (Diwygio) 1993.
Y ffurflenni y pennir fersiynau Cymraeg ar eu cyfer o dan y Rheoliadau hyn yw:–
a.
Ffurflen hysbysiad cychwynnol o oediad o dan adran 153A(1) Deddf Tai 1985 (ffurflen RTB6).
b.
Ffurflen gwrth–hysbysiad o dan adran 153A(3)(b) Deddf Tai 1985 (ffurflen RTB7).
c.
Ffurflen ar gyfer hysbysiad gweithredol o oediad o dan adran 153A(5) Deddf Tai 1985 (ffurflen RTB8).