OpenLegislation

Paragraph 43

Changes not yet applied. Later legislation changes this provision in ways not yet written into the text below:

Nid oes angen i chi gynnwys unrhyw un o'r canlynol:

  • lwfans gweini;

  • budd-dâl treth gyngor;

  • lwfans byw i'r anabl;

  • lwfans gwarcheidwad;

  • budd-dâl tai;

  • unrhyw lwfans ceisio gwaith neu gymhorthdal incwm (gweler cwestiynau 4.1 a 4.22);

  • taliadau gan Ymddiriedolaethau MacFarlane, Ymddiriedolaeth Eileen neu'r Cronfeydd Byw yn Annibynnol;

  • taliadau o'r Gronfa, h.y. arian sydd wedi'i roi ar gael gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan gynllun a sefydlwyd ar 24 Ebrill 1992 neu, yn yr Alban, ar 10 Ebrill 1992;

  • taliadau o dan gynllun “busnes ar eich liwt eich hun”, y “gwasanaeth darllenydd personol” neu'r cynllun “tocynnau teithio i'r gwaith”;

  • taliadau cronfa gymdeithasol o dan Ran VIII o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992.

  • taliadau atodol gorfodol a wnaed i chi am gymryd rhanyn Newis Sector Gwirfoddol y Fargen Newydd neu yn Newis Tasglu Amglychedd y Fargen Newydd lle'r ydych chi yn hunangyflogedig o dan Ddewis Cyflogaeth y Fargen Newydd a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973;

  • taliadau disgresiynol ar gyfer anghenion arbennig a wnaed i chi am gymryd rhan yn Newis Addysg a Hyfforddiant Amser-Llawn y Fargen Newydd a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973;

Gellir anwybyddu budd-daliadau a lwfansau penodol eraill wrth gyfrif eich incwm, ond at ddibenion llenwi'r ffurflen dim ond y taliadau a grybwyllir uchod y dylech beidio â'u cynnwys. Os oes gennych unrhyw amheuon ynghylch a yw taliad yn perthyn i un o'r categorïau hyn, dylech ei gynnwys a darparu manylion llawn am natur y taliad fel bod y Cyngor yn gallu penderfynu a oes modd ei anwybyddu ai peidio.