Paragraph 46A
Ystyr “taliadau yswiriant” yw unrhyw daliadau a geir o dan bolisi yswiriant i alluogi gwneud ad-daliadau:
(a)
ar forgais eich cartref eich hun;
(b)
ar gytundeb credyd defnyddwyr neu gytundeb hur defnyddwyr a reoleiddir gan Ddeddf Credyd Defnyddwyr 1974; neu
(c)
ar gytundeb hurbrynu neu gytundeb gwerthiant amodol fel y'u diffinnir at ddibenion Deddf Hurbrynu 1964.
Anwybyddir y taliadau hyn i'r graddau nad ydynt yn uwch na'r swm y mae ei angen er mwyn caniatáu i'r ad-daliadau uchod gael eu gwneud. O ran eich morgais, bydd y swm i'w anwybyddu yn cynnwys unrhyw swm y mae angen i dalu premiymau ar bolisi yswiriant adeiladau sy'n ofynnol yn ôl telerau'r morgais ar eich cartref.